Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi dweud ei bod hi’n hyderus na fydd y problemau ynghylch canlyniadau arholiadau a gododd yn yr Alban yn cael eu hailadrodd yng Nghymru.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau ar Awst 13, tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn ar Awst 20.

Eglurodd Julie James fod y broses cymedroli canlyniadau yng Nghymru yn ystyried gwaith sydd eisoes wedi ei gwblhau gan fyfyrwyr.

“Dw i’n hapus iawn i sicrhau pob dysgwr yng Nghymru fod y model yng Nghymru’n wahanol iawn [i’r un yn yr Alban]”, meddai yng nghynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru.

Y sefyllfa yn yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban wedi eu beirniadu am system graddau arholiadau oedd ei lle yn sgil y coronafeirws.

Cafodd 26.2% o ganlyniadau yn yr Alban a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 6) eu haddasu yn sgil y drefn newydd, a hynny’n seiliedig ar berfformiad disgyblion yn y gorffennol.

Fel rhan o’r broses honno, cafodd 124,564 o ddisgyblion ganlyniadau is nag y bydden nhw wedi’u cael.

O ganlyniad i hyn mae John Swinney, Ysgrifennydd Addysg yr Alban, dan bwysau i ymddiswyddo ac mae’n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder.

‘Sicrhau tegwch’

“Maen nhw wedi cymedroli [y canlyniadau] trwy broses CBAC yma yng Nghymru, os oeddech chi i fod i sefyll eich Safon Uwch eleni, byddwch chi wedi sefyll [arholiadau] Uwch Gyfrannol y llynedd, er enghraifft, a bydd 40% o’ch canlyniad yn seiliedig ar hynny,” meddai.

“Felly mae gyda ni ddull da o arholi i sicrhau bod myfyrwyr yn cael tegwch.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl i’r hyn ddigwyddodd yn Yr Alban i ddigwydd yma.

“Rydyn ni’n ymddiried yn llwyr yn ein hathrawon, ac mae ein penaethiaid yn arbennig wedi gweithio’n galed iawn drwy gydol y broses hon er mwyn sicrhau bod eu hysgolion yn cyflwyno’r canlyniadau cywir.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y canlyniadau ddydd Iau a fydd yn dangos llwyddiant ein dysgwyr ac yn rhoi’r clod iddyn nhw maen nhw’n ei haeddu.

“Bydd y broses apeliadau yn ei lle a bydd ysgolion yn gallu apelio pe bai angen gwneud hynny.”

Ychwanegodd y gweinidog y bydd proses apeliadau yn ei lle erbyn dydd Iau, ond ei bod hi’n “amhosib” iddi ddarogan beth yn union fydd y canlyniadau yng Nghymru.