Mae achosion newydd o’r coronafeirws wedi’u cofnodi yn Seland Newydd am y tro cyntaf ers 102 o ddiwrnodau.

Roedd y pedwar achos yn ymwneud â phobol o’r un aelwyd.

Ond dydy tarddiad yr achosion ddim yn glir ar hyn o bryd.

Mae’n golygu y bydd y wlad dan gyfyngiadau unwaith eto, lle bydd pobol yn cael cais i aros gartref, tra bydd bariau a busnesau eraill hefyd ynghau.

Fydd dim modd ychwaith i bobol deithio i Auckland oni bai eu bod nhw’n byw yno ac yn mynd adref.

Bydd cynulliadau torfol yn cael eu cyfyngu mewn llefydd eraill i ddim mwy na 100 o bobol, a bydd angen i bobol gadw pellter oddi wrth ei gilydd.