Mae Heddlu Llundain wedi dirwyn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Stephen Lawrence i ben, gan ddweud eu bod nhw wedi dilyn pob trywydd oedd ganddyn nhw.

Fe fydd yr ymchwiliad bellach yn symud i’r cyfnod ‘anweithredol’.

Cafodd y dyn 18 oed ei lofruddio yn dilyn ymosodiad hiliol yn ne-ddwyrain Llundain yn 1993, a dim ond dau o’r rhai oedd yn gyfrifol sydd wedi’u cosbi.

Cafodd Gary Dobson a David Norris eu carcharu am oes yn 2012 ar ddiwedd achos oedd yn seiliedig ar ychydig iawn o dystiolaeth fforensig flynyddoedd wedi’r digwyddiad.

Mae dau arall oedd dan amheuaeth, Neil a Jamie Acourt, wedi’u carcharu yn y cyfamser am droseddau’n ymwneud â chyffuriau ac mae Luke Knight â’i draed yn rhydd o hyd.

Pan gafodd yr ymchwiliad ei ohirio ddwy flynedd yn ôl, dywedodd ei fam Doreen Lawrence ei bod hi am ei weld yn dod i ben yn gyfangwbl.

Ond roedd ei dad Neville yn gobeithio cael “cyfiawnder llwyr” ac na fyddai fyth yn rhoi’r gorau i geisio’r cyfiawnder hwnnw.