Mae cadeirydd Dyfodol i’r Iaith yn dweud bod colli myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i Loegr “yn mynd yn erbyn y nod o gael athrawon Cymraeg da”.

Daw sylwadau Heini Gruffudd wrth golwg360 ar drothwy cyhoeddi canlyniadau arholiadau eleni, ac wrth i Dyfodol i’r Iaith gefnogi’n llwyr alwad Comisiynydd y Gymraeg i gael rhagor o athrawon Cymraeg.

Wrth i nifer y cartrefi Cymraeg ostwng, mae creu rhagor o siaradwyr Cymraeg trwy Addysg Gymraeg yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, yn ôl y mudiad.

Tra bod Addysg Gymraeg wedi tyfu’n gadarn dros ddegawdau, mae’r twf, yn ôl  Dyfodol i’r iaith, wedi bod yn llawer rhy araf, a thargedau twf ysgolion Cymraeg heb eu cyrraedd.

Er bod Comisiynydd y Gymraeg yn galw am gynnydd sylweddol mewn athrawon , mae Dyfodol i’r Iaith yn poeni bod nifer o bolisiau’r Llywodraeth yn milwrio yn erbyn cynlluniau i ehangu Addysg Gymraeg.

Ariannu

“Mae dau beth yn taro dyn, fod y Llywodraeth yn ariannu myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i brifysgolion yn Lloegr yn yr un modd â maen nhw’n ariannu myfyrwyr i aros yng Nghymru,” meddai Heini Gruffudd wrth golwg360.

“O’r ystadegau welais i, mae rhyw 33,000 i 35,000 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio am eu gradd yn Lloegr ar hyn o bryd.

“Mae hwnna’n golygu, mae’n siŵr, fod rhyw 6,000 i 7,000 o’r rheiny yn siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r siawns fod rheiny yn aros yng Nghymru neu’n dod ’nôl i Gymru, allen i farnu, yn llai na myfyrwyr sydd wedi astudio yng Nghymru.

“Mae ’na golled, wedyn, o ran sgiliau ieithyddol ymysg y myfyrwyr yna a’r modd maen nhw’n gallu defnyddio’r sgiliau ieithyddol yna yng Nghymru. 11,000 i 12,000 y flwyddyn yw’r ffigwr.

“Os y’n ni’n ymestyn hwnna dros ddeng mlynedd neu ugain mlynedd, mae’r ffigwr yn mynd yn wirioneddol fawr ac ry’n ni’n gweld colled amlwg o’r rhai allai ddod nôl neu aros yng Nghymru i gael bod yn athrawon a dysgu trwy’r Gymraeg.”

Beth yw’r ateb?

Yr ateb i’r sefyllfa honno, meddai Heini Gruffudd, yw dilyn model yr Alban o gadw eu myfyrwyr yn y wlad heb eu hariannu i fynd i Loegr.

“Dw i ddim yn deall pam fod rhaid i Gymru fod bron yr unig wlad yn Ewrop, falle, sy’n cyllido myfyrwyr i fynd i wlad arall i astudio,” meddai.

“Mae ’na rai pynciau, yn naturiol, sydd ddim ar gael yng Nghymru, a phopeth yn dda.

“Ond ar y cyfan, dwi ddim yn gweld pam mae angen i ni, yng Nghymru, gael system addysg dda sydd yn targedu i anfon rhwng chwarter a thraean o’n myfyrwyr ni i Loegr.”

Mae’n dweud bod y Coleg Cymraeg yn “gwneud eu gorau glas”, ond fod colli myfyrwyr i Loegr yn tanseilio’r ymdrechion hynny.

“Hynny yw, maen nhw’n cyllido myfyrwyr yn rhannol i ddechrau, maen nhw hefyd yn rhoi cyllid i brifysgolion a cholegau i gynnal cyrsiau.

“Os oes nifer helaeth o fyfyrwyr yn mynd i Loegr, wel fydd cynlluniau’r Coleg Cymraeg ddim yn gallu dwyn ffrwyth yn llawn fel y dylen nhw.”

Prifysgolion Russell

Ateb posib arall, meddai, yw edrych eto ar gynllun Seren, sy’n anelu i anfon y myfyrwyr mwyaf disglair o Gymru i brifysgolion gorau Lloegr.

“Mae gan y Llywodraeth system Seren, lle maen nhw yn anelu at ddenu’r disgyblion gorau yn yr ysgolion er mwyn bod y disgyblion yna’n cael eu hannog i wneud yn dda yn eu canlyniadau, a phopeth yn dda o ran hynny,” meddai.

“Ac maen nhw’n annog myfyrwyr, yn arbennig, o ardaloedd tlawd.

“Ond y drwg yw fod y cynllun yna’n anelu at gael y myfyrwyr disglair i gyd i fynd ymlaen i brifysgolion Grŵp Russell.

“Mae 33 o’r 34 prifysgol trwy Brydain sy’n perthyn i Grŵp Russell yn Lloegr, dim ond Caerdydd sydd yng Nghymru.

“Felly mae’r cynllun yna, yn ei hanfod, yn anelu at ddenu myfyrwyr gorau Cymru i fynd allan o’r wlad i astudio yn y brifysgol.

“Roedd cynhadledd yn Y Drenewydd ddiwedd y llynedd wedi denu tua 1,300 o’r disgyblion yma, a chynrychiolwyr o brifysgolion Lloegr yn eu hannerch nhw a’u denu nhw i fynd i Loegr.

“Mae’n siŵr ’da fi fod hwnna yn bendant yn milwrio yn erbyn cadw myfyrwyr gorau Cymru yng Nghymru a chadw’r rhai sydd â thalentau a sgiliau ieithyddol yng Nghymru.

“Mae’r ddau beth yna’n mynd yn erbyn y nod o gael athrawon Cymraeg da yng Nghymru.”