Mae Rebecca Williams, is-Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, wedi dweud wrth golwg360 fod “y system orau bosib o dan yr amgylchiadau” yn cael ei defnyddio i benderfynu ar raddau i ddisgyblion ysgol.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau ar Awst 13, tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn ar Awst 20.

“Mae’n amlwg wedi bod yn sefyllfa eithriadol o anodd sydd wedi arwain at broses gymhleth,” meddai Rebecca Williams wrth golwg360.

“Dw i’n credu bod y system sydd wedi cael ei dewis yng Nghymru am arwain at ganlyniadau teg ar y cyfan, a dyma’r system orau bosib o dan yr amgylchiadau.

“Mae’n anodd dweud yn union nes bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi, ac mae’n bosib y bydd mwy o gwestiynau’n codi.

“Ond rhai o’r pethau fydd yn diogelu ni yng Nghymru yw bod canlyniadau blaenorol disgyblion yn cael eu hystyried yn ogystal â chanlyniadau ysgolion dros y tair blynedd diwethaf.”

“Dysgwyr eleni ddim o dan anfantais” – Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru’n mynnu nad yw “dysgwyr eleni o dan o anfantais”.

Ac yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ei bod hi’n hyderus na fydd y problemau ynghylch canlyniadau arholiadau a gododd yn yr Alban yn cael eu hailadrodd yng Nghymru.

Cafodd 26.2% o ganlyniadau yn yr Alban a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 6) eu haddasu yn sgil y drefn newydd, a hynny’n seiliedig ar berfformiad disgyblion yn y gorffennol.

Fel rhan o’r broses honno, cafodd 124,564 o ddisgyblion ganlyniadau is nag y bydden nhw wedi’u cael.

“Dw i’n hapus iawn i sicrhau pob dysgwr yng Nghymru fod y model yng Nghymru’n wahanol iawn [i’r un yn yr Alban],” meddai yng nghynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru.

“Mae CBAC wedi datblygu model cenedlaethol sydd wedi’i gymeradwyo gan Gymwysterau Cymru i sicrhau nad yw dysgwyr eleni dan anfantais a byddant yn gallu symud ymlaen gyda hyder,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Er bod tebygrwydd yn y modelau a ddefnyddir ledled y Deyrnas Unedig, rydym ni yng Nghymru wedi gallu defnyddio ystod fwy o ddata cyrhaeddiad blaenorol, gan gynnwys lefelau UG, TGAU, unedau TGAU a data asesiadau athrawon Cyfnod Allweddol 3 a’r profion cenedlaethol, i wella cywirdeb.”

“Ni ddylai disgyblion ddioddef oherwydd system ddiffygiol” – Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi dweud “na ddylai disgyblion ddioddef oherwydd system ddiffygiol.”

Dywed Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian fod y “broses Gymreig ddim yn annhebyg”.

“Fel y system yn yr Alban, gallai hyn arwain at annhegwch i fyfyrwyr yng Nghymru ac rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hynny a chyhoeddi pa gamau maen nhw’n bwriadu eu cymryd i gywiro’r sefyllfa,” meddai.

“Ni ddylai disgyblion ddioddef oherwydd system ddiffygiol.”

“Teimlo fel cosb” medd disgybl

Mae Lleucu Non, disgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle, wedi dweud wrth golwg360 fod y system newydd yn “teimlo fel cosb”.

Roedd hi’n astudio Cymraeg, Saesneg a Hanes yn Ysgol Dyffryn Nantlle a bydd yn cael gwybod pa raddau mae hi wedi eu derbyn ddydd Iau (Awst 13).

“Dw i wedi siarad efo ffrindiau sydd gen i o’r un flwyddyn ac rydan ni gyd yn eithaf blin,” meddai.

“Rydan ni wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf a does dim bai ar neb am y feirws, felly mae’r system yn teimlo fel cosb.

“Dw i heb gael y cyfle i brofi mod i’n gallu cyrraedd y graddau Uwch Gyfrannol ges i a hyd yn oed gwneud yn well.

“Dyw’r flwyddyn hon heb fod yn gyffredin mewn unrhyw synnwyr o’r gair, a dw i heb gael cyfle i brofi fy hun mewn arholiad, felly os di’n raddau i’n gostwng oherwydd mai dyna mae’r system yn feddwl sydd orau, dw i ddim yn meddwl bod hynna’n deg.

“Mae ’na bobol yn dibynnu ar y graddau yma ar gyfer eu dyfodol nhw.”