Mae undeb athrawon UCAC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £10m ychwanegol ar gael i helpu’r diwydiant bysiau i gludo rhagor o ddisgyblion i’r ysgol mewn modd diogel.

Nod y cyllid ychwanegol yw helpu cwmnïau bysiau i reoli’r pwysau uwch ar wasanaethau.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod fod y mesurau cadw pellter yn arwain at gapasiti is, ac mae hyn yn ei dro yn effeithio ar incwm.

Bydd ysgolion Cymru yn ailagor yn llawn o fis Medi – a hynny am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng coronafeirws.

‘Mor ddiogel â phosib’

“Mae’n bwysig iawn bod dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi mor ddiogel â phosib,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol Addysg Cymru.

Rydym eisoes wedi bod yn tynnu sylw at yr her o gymysgu grwpiau o blant ar gludiant ysgol ac yn gobeithio y gellir defnyddio’r arian ychwanegol yma i ganiatáu pellter cymdeithasol.

“Rydyn ni’n gwybod y gall trafnidiaeth ysgol a choleg fod yn brysur. Gobeithio y bydd rhedeg mwy o fysiau yn ei gwneud yn fwy diogel ac yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd y firws yn cael ei drosglwyddo rhwng disgyblion ar gludiant ysgol sy’n orlawn.”

‘Dibynadwy’

Wrth gyhoeddi’r cyllid ychwanegol, dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ei bod hi’n holl bwysig fod gwasanaethau bysiau yn “ddibynadwy ac yn ddiogel”.

“Bydd y £10 miliwn ychwanegol hwn yn galluogi awdurdodau lleol a gweithredwyr i nodi a darparu’r gwasanaethau ychwanegol sydd eu hangen i helpu dysgwyr i ddychwelyd i’r ysgol neu’r coleg mewn modd diogel,” meddai.

“Bydd hefyd yn galluogi defnyddwyr bysiau nad ydynt yn gallu gweithio gartref i ddychwelyd i’r gweithle mewn modd diogel.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y cyfnod hwn yn un heriol iawn ar gyfer ein gweithredwyr bysiau, a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda nhw a gwneud popeth yn ein gallu i’w cefnogi yn ystod yr adeg heriol hon.”

Sicrhau y gall myfyrwyr a staff ddychwelyd i’r ysgol yn ddiogel ym mis Medi yw’r flaenoriaeth iKirsty Williams y Gweinidog Addysg hefyd.

“Rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod dysgwyr a staff yn dychwelyd i ysgolion a cholegau cyn gynted ag inni dderbyn sicrwydd y gellir gwneud hynny’n ddiogel, er mwyn eu hanghenion o ran addysg a llesiant,” meddai.

“Hoffwn i ddiolch unwaith eto i staff am eu gwaith caled wrth wireddu’r nod hwn.”