Mae beiciwr modur 72 oed wedi marw ar ôl taro cylchfan yn y Bont-faen brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Awst 11).

Fe ddigwyddodd ar ffordd yr A48 am oddeutu 2.45yp wrth iddo deithio i gyfeiriad y dwyrain tuag at Gaerdydd.

Fe ddaeth oddi ar ei feic a chael anafiadau difrifol.

Mae ei deulu’n cael cefnogaeth gan yr heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.