Kamala Harris fyddai’r ddynes groenddu gyntaf i fod yn Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau pe bai’r Democrat Joe Biden yn cael ei ethol, ar ôl iddo ddewis Seneddwr Califfornia fel ei bartner yn y ras yn erbyn yr Arlywydd Gweriniaethol Donald Trump.

Mae’r ddynes 55 oed yn aelod blaenllaw o’r Blaid Ddemocrataidd a daeth hi’n un o’r ceffylau blaen i fod yn ddirprwy ar ôl rhoi’r gorau yn gynnar iawn i’w ras arlywyddol ei hun.

Daw’r ras ar adeg allweddol yn hanes yr Unol Daleithiau, gyda mwy na 150,000 o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws a’r pandemig wedi achosi pwysau enbyd ar yr economi.

Daw hefyd ar adeg pan fo hawliau pobol groenddu dan y chwyddwydr yn dilyn marwolaeth George Floyd dan law’r heddlu ym Minneapolis yn ystod y pandemig.

Ar y cyfan, mae gan Kamala Harris record dda wrth fynd i’r afael â gofal iechyd a’r gyfraith, ond cafodd ei beirniadu yn ystod rowndiau cychwynnol etholiad y Democratiaid am nad oedd hi o reidrwydd yn cyd-fynd â barn y cyhoedd am hiliaeth systemig y system gyfreithiol a’r heddlu.

Dywedodd Joe Biden ym mis Mawrth mai dynes fyddai ei ddirprwy, gan geisio gwneud yn iawn am yr ymateb i’r ffaith mai dau ddyn yn eu 70au fyddai’n brwydro am y brif swydd.

Ymhlith yr enwau eraill a gafodd eu hystyried roedd Elizabeth Warren, Val Demings, Karen Bass, Susan Rice a Keisha Lance Bottoms.

Yr unig fenywod erioed i fod yn bartner mewn ras arlywyddol yw Geraldine Ferraro yn 1984 a Sarah Palin yn 2008.

Pe bai’n cael ei ethol, Joe Biden fyddai’r arlywydd hynaf erioed i gael ei ethol, ac yntau’n 78 oed.

Donald Trump yn beirniadu’r dewis

Mae Donald Trump eisoes yn beirniadu dewis Joe Biden ar gyfer swydd ei ddirprwy.

Mae’n tynnu sylw at ei hagwedd “amharchus” yn ystod y rowndiau cychwynnol gan ddweud ei bod hi’n “anodd dewis rhywun sydd mor amharchus”.

Mae e hefyd yn tynnu sylw at ei pherfformiad ei hun yn y ras arlywyddol, ac yn ei darlunio fel ffigwr sydd yn rhy bell i’r chwith, gan ddweud ei bod hi eisiau codi trethi, torri cyllideb y lluoedd arfog a gwahardd ffracio.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo ddweud fis diwethaf y byddai hi’n “ddewis da”.