Mae’r dirwasgiad mwyaf erioed yn hanes gwledydd Prydain ar y gweill, ar ôl i’r economi grebachu 20.4% rhwng Ebrill a Mehefin.

Dyma’r dirwasgiad cyntaf ers yr argyfwng economaidd yn 2008.

Fe ddaw ar ôl i’r economi grebachu ddim ond 2.2% yn y chwarter blaenorol.

Ystyr dirwasgiad yw fod yr economi wedi crebachu ddau chwarter yn olynol o ran Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP).

Serch hynny, fe wnaeth yr economi adfer ychydig ar gyfer mis Mehefin ond mae’n ymddangos mis misoedd Mawrth ac Ebrill yn benodol sydd wedi gwneud y niwed mwyaf, a hynny’n dilyn dechrau ymlediad y coronafeirws.

Y siopau’n agor eto, gweithleoedd yn agor eu drysau ac adeiladu tai oedd yn gyfrifol am rywfaint o adferiad ym mis Mehefin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau, sy’n dweud mai’r diwydiant lletygarwch sy’n dioddef fwyaf ar hyn o bryd.

Mae’n ymddangos mai economi Prydain, o holl wledydd Ewrop, sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y pandemig – gan guro cwymp o 18.5% yn Sbaen.

Mae economi Prydain 22.1% yn llai nag yr oedd erbyn diwedd y llynedd, ac 17.2% yn llai nag yr oedd ym mis Chwefror.

Roedd y sector gwasanaethau i lawr 19.9% ar gyfer y chwarter, adeiladu i lawr 35% a gweithgynhyrchu wedi gostwng 20.2%.

Mae Banc Lloegr yn darogan na fydd yr economi’n adfer i lefelau cyn y feirws tan o leiaf ddiwedd 2021.