Mae disgwyl rhagor o stormydd yng Nghymru heddiw (dydd Mercher, Awst 12) ac yfory (dydd Iau, Awst 13).

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am lifogydd, ac fe allai rhannau o’r wlad golli trydan.

Mae disgwyl i’r ffyrdd gael eu cau mewn rhai llefydd.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i Gymru gyfan, a’r disgwyl yw y bydd mellt a tharanau, cenllysg a gwyntoedd cryfion.

Mae rhywfaint o berygl i fywydau, meddai’r rhybudd.