Mae Dirprwy Lywydd Holyrood wedi cyhoeddi ei bod hi am roi’r gorau i’w swydd cyn yr etholiadau nesaf.

Bydd Linda Fabiani wedi bod yn ei swydd ers 20 mlynedd erbyn hynny, a rhoddodd hi wybod i’w hetholaeth yn Nwyrain Kilbride am ei phenderfyniad neithiwr (nos Fawrth, Awst 11).

Mae’n dweud ei bod hi’n teimlo’n “freintiedig” o fod wedi gallu gwasanaethu Senedd yr Alban ond nad yw’n gallu ymrwymo i bum mlynedd arall gan ei bod hi’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’i theulu a’i ffrindiau.

Bydd hi’n 65 oed erbyn yr etholiadau yn 2021.

Cafodd ei hethol yn Ddirprwy Lywydd ar ôl etholiadau 2016, ond roedd hi’n ymgeisydd mor bell yn ôl â 1999, gan ennill sedd ranbarthol Canol yr Alban ac aros yn y swydd honno tan 2011.

Cafodd ei hethol i sedd Dwyrain Kilbride yn 2011 ar ôl curo Llafur, a chadwodd hi’r sedd yn 2016.

Mae hi wedi gwasanaethu’r Llywodraeth fel Gweinidog Ewrop, Materion Allanol a’r Diwylliant, gan hyrwyddo’r Alban gartref a thramor, a hynny yn Senedd gynta’r Alban rhwng 2007 a 2009.

Hi oedd cadeirydd Pwyllgor Bil yr Alban yn dilyn cyhoeddi Comisiwn Calman oedd yn gyfrifol am drosglwyddo mwy o bwerau o San Steffan i’r Alban yn 2012.

Ond mae’n dweud mai’r peth y mae’n ei ddifaru fwyaf yw nad oedd yr Alban wedi ennill ei hannibyniaeth yn 2014.