Mae ymchwil yn awgrymu bod pryder am yr hinsawdd wedi cynyddu yn ystod y pandemig a bod pobol yn awyddus i gadw arferion cynaliadwy y tu hwnt i gyfnod Covid-19.

Yn ôl dau arolwg eang gan Ganolfan Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol y DU (CAST) sydd wedi’i gydlynu gan Brifysgol Caerdydd, mae’r cyfnod clo wedi trawsnewid arferion pobol.

Mae pobol wedi lleihau eu defnydd o ynni, gwastraffu llai o fwyd ac yn teithio llai.

“Mae ein harolygon yn dangos bod y cyfnod clo wedi cynnig cyfleoedd i’r cyhoedd roi cynnig ar ymddygiad carbon isel – fel gweithio a chymdeithasu ar-lein, treulio mwy o amser ar ddiddordebau creadigol a garddio, prynu llai, a lleihau gwastraff bwyd – ac mae llawer yn awyddus i barhau â’r ymddygiad hwn pan gaiff y cyfyngiadau eu codi,” meddai’r Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr CAST.

Un o’r pethau mwyaf trawiadol, meddai, yw fod pobol yn llai parod i hedfan.

Cafodd ei synnu hefyd fod lefelau pryder y cyhoedd am newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu.

“Mae ein hastudiaethau’n cyd-fynd ag ymchwil arall sy’n dangos bod y cyhoedd yn cefnogi adferiad gwyrdd o Covid-19,” meddai wedyn.

“Mae hyn yn amlygu bod angen i lunwyr polisïau weithredu nawr i sefydlu’r trefniadau carbon isel mae pobol wedi’u mabwysiadu yn ystod y cyfnod clo er mwyn i bobol osgoi llithro’n ôl i’w hen arferion carbon uchel.”

‘Aflonyddwch’ 

Roedd 1,800 o bobol yn rhan o’r arolwg yn ystod y cyfnod clo, ac mae Dr Claire Hoolohan, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion, yn disgrifio’r cyfnod fel yr “aflonyddwch mwyaf i ffordd o fyw ers cyn cof”.

“Mae’r mesurau a osodwyd i ymateb i’r pandemig wedi effeithio’n sylfaenol ar sut mae pobol yn byw, gweithio, cymdeithasu a gofalu am ei gilydd,” meddai.

“Mae ein canfyddiadau’n dangos bod ailstrwythuro bywyd bob dydd ers cyflwyno’r cyfnod clo wedi caniatáu i arferion carbon isel gydio.

“Ond mae profiadau pobol wedi amrywio’n fawr iawn. Er bod ein hymchwil wedi canfod bod llawer o bobol yn mwynhau elfennau o’r cyfnod clo, canfuom ni hefyd fod eraill yn profi teimladau o straen ac euogrwydd wrth geisio cydbwyso cyfrifoldebau gofalu a gwaith.

“Y cwestiwn sy’n wynebu cymdeithas nawr yw sut ydym ni’n ymadfer o Covid-19 mewn ffordd sy’n golygu bod cymdeithas yn iachach, yn fwy hapus a chynaliadwy nag o’r blaen.”

Canlyniadau’r ymchwil:

  • Mae 47% o bobol yn bwriadu lleihau faint maen nhw’n hedfan ar wyliau neu hamdden ar ôl y cyfnod clo.
  • Mae 52% o bobol yn bwriadu defnyddio llai o drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl y cyfnod clo na chyn hynny, gyda 4.9% yn unig yn bwriadu cynyddu eu defnydd.
  • Mae siopa ar-lein wedi mwy na dyblu o 12% i 25% yn ystod y cyfnod clo.
  • Roedd gostyngiad amlwg mewn gwastraff bwyd o 92% i 84%.
  • Gwariodd cyfranogwyr llai yn ystod y cyfnod clo, gyda’r gostyngiad mwyaf trawiadol o ran gwario ar ddillad ac esgidiau – gwariodd 63% ddim ceiniog ar ddillad ac esgidiau rhwng mis Mawrth a mis Mai.
  • Mae pobol yn fwy parod i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ers y pandemig nag ym mis Awst y llynedd – mae cynnydd o 62% i 74%  yn y bobol sy’n ei ystyried yn fater o frys ‘uchel iawn’ neu ‘uchel’.

Bydd yr ymchwilwyr yn parhau â’r ymchwil wedi i’r cyfnod clo gael ei godi’n llwyr er mwyn deall yr effeithiau tymor hir.