Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o 27 Gorffennaf ymlaen.

Dywedodd Mark Drakford fod y newid yn rhannol “er mwyn symlrwydd a chysondeb”, gan fod rheolau tebyg mewn grym yn Lloegr.

Mark Drakeford

Ddydd Llun (13 Gorffennaf), dywedodd wrth sesiwn friffio ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg: “Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn croesi ein ffin â Lloegr. Yno, mae’r defnydd o orchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Ac er mwyn symlrwydd a chysondeb, yn ogystal â bod yn rhan o’n cynllun i helpu i leihau’r risg o drosglwyddiadau tra ar drafnidiaeth gyhoeddus lle nad yw’n bosibl cynnal pellter corfforol o ddwy fetr, bydd yn orfodol yng Nghymru i bobl wisgo gorchudd wyneb tair haen wrth deithio ar gludiant cyhoeddus.”

Tacsis, bysiau a threnau

Dywedodd Mr Drakeford y byddai’r gofyniad yn cynnwys teithio mewn tacsis, yn ogystal â bysiau a threnau. Mae canllawiau i weithredwyr ar y mesurau y mae’n rhaid iddynt eu rhoi ar waith pan na ellir bodloni’r rheol bellhau o ddau fetr wedi cael eu cyhoeddi bellach, meddai, a bydd rhai gweithredwyr yn barod i gael y mesurau yn eu lle cyn i’r rheolau newydd ddod i rym.

Dywedodd Mr Drakeford na fyddai’n gorfodi’r defnydd o orchuddion wyneb tair haen mewn mannau cyhoeddus eraill.

Gellid newid yn y dyfodol

Ond cyfaddefodd y gallai hynny newid yn dibynnu ar gyflwr y feirws yng Nghymru, ac y gallai rhai busnesau fynnu bod pobl yn gwisgo gorchuddion y tu mewn i’w hadeiladau beth bynnag.

Dywedodd: “Ar hyn o bryd pan fo nifer yr achosion o’r coronafeirws yn isel, nid ydym am orfodi’r defnydd o orchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus eraill [heblaw trafnidiaeth gyhoeddus].

“Ond mae llawer o bobl wrth gwrs yn dewis eu gwisgo nhw a does dim byd i rwystro hynny rhag digwydd yng Nghymru. Gallai ein cyngor newid os bydd nifer yr achosion o’r coronafeirws yn dechrau cynyddu eto.

“A lle nad yw’n bosibl cynnal pellter cymdeithasol o ddau fetr, mae’n bosibl y bydd rhai busnesau’n gofyn i bobl wisgo gorchudd wyneb cyn mynd i mewn i’r safle hwnnw.”

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywedodd Darren Millar, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru a’i Gabinet gyflwyno’r dystiolaeth wyddonol – os yw’n bodoli – i gyfiawnhau [gwneud hyn] ymhen pythefnos yn hytrach nag ar unwaith… a pham dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae’r cloi yn cael ei lacio, mae bywyd yn dychwelyd i ‘normal newydd’, ond mae’n rhaid i ni barhau i gymryd pob rhagofal i osgoi ail don o achosion, ac efallai y bydd gwneud gwisgo masgiau’n orfodol o heddiw yn mynd beth o’r ffordd i gyflawni hyn – ond dim ond os caiff ei gyflwyno nawr.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: “Rwy’n croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ar wneud y defnydd o orchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol. Ond wrth gydnabod bod gorchuddion wyneb yn gwneud gwahaniaeth tyngedfennol ar drenau, bysiau ac mewn tacsis, rhaid gofyn i Lywodraeth Cymru – pam ddim mewn siopau hefyd?

“Nid yw’r canllawiau diweddaraf, er ei fod yn gam i’r cyfeiriad cywir, yn mynd yn ddigon pell o hyd. Yr hyn a wyddom am y coronafeirws yw ei fod yn fwy tebygol o ledaenu y tu mewn, a’i fod yn dal i gael ei drosglwyddo ymhlith y gymuned yng Nghymru. Nid yw diogelu’r cyhoedd mewn llond dwrn o leoliadau yn gwneud synnwyr.”