Mae arbenigwr sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud bod angen neges “glir a chydlynol” ynglyn â gwisgo mygydau.
Daw hyn ar ôl i’r aelod o’r cabinet, Michael Gove, ddweud ddydd Sul (Gorffennaf 12), na ddylai gwisgo mygydau mewn siopau fod yn orfodol ond y dylai pobol eu gwisgo er mwyn dangos cwrteisi ac ystyriaeth at eraill.
“Byddwn yn annog pobol i wisgo mygydau pan maen nhw mewn amgylchedd lle maen nhw’n debygol o gymysgu ag eraill a lle mae system awyru o bosib ddim cystal ag y gallai fod,” meddai Michael Gove wrth y BBC.
“Rwy’n ymddiried yn synnwyr cyffredin pobol”.
Ond mae’r arbenigwr ymddygiad, yr Athro Susan Michie, sy’n aelod o Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (Sage) y Llywodraeth, wedi dweud y dylai unrhyw ddeddfwriaeth ddigwydd ynghyd ag ymgyrchoedd gwybodaeth sy’n egluro pam a sut y dylid dilyn y rheolau, os yw pobl am gadw atyn nhw.
Dywed nad yw hyn wedi bod yn wir am y ffordd mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd ati i ddelio â mygydau yn Lloegr.
Cymharu â’r Alban
Yn yr Alban daeth cyfraith i rym ddydd Gwener (Gorffennaf 10) sy’n ei gwneud hi’n orfodol i wisgo mygydau mewn siopau.
Galwodd y Prif Weinidog Nicola Strugeon ar bobol yr Alban i gydymffurfio â’r gyfraith newydd er mwyn gwarchod eu hunain ag eraill.
Dywed Linda Bauld, sy’n athro iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caeredin bod neges glir wedi bod yn yr Alban ynglyn â gwisgo mygydau.
“Mae arweinyddiaeth yn hanfodol ond dyw ceisio annog pobol i wisgo masgiau er mwyn bod yn gwrtais ddim yn ddigonol,” meddai.
Llafur yn galw am eglurder
Mae’r Gweinidog Iechyd Cysgodol Justin Maddgers wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro’n glir os dylai gwisgo mygydau fod yn orfodol mewn siopau.
“Rydym angen i Matt Hancock ddod i’r Tŷ a dweud mai dyma mae’r arbenigwyr gwyddonol yn ei ddweud, dyma rydym yn ei gredu y dylech fod yn ei wneud, ac yna gallwn symud ymlaen.
“Mae angen neges glir fel ein bod i gyd yn gwybod lle rydym yn sefyll”.
Diweddariad
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bellach wedi cyhoeddi y bydd gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o 27 Gorffennaf ymlaen.