Mae Aelod o’r Senedd yng Nghymru a Phrif Weinidog yr Alban wedi ymateb i adroddiadau am gynlluniau honedig a fyddai’n golygu bod gwledydd sydd wedi’u datganoli yn colli’r hawl i benderfynu ar gymorth gwladwriaethol, fel sybsideiddio cwmniau, ar ôl i Brexit ddod i ben.

Fe fyddai’r cynlluniau honedig gan Lywodraeth Prydain yn “ymosodiad ar ddatganoli,” meddai Nicola Sturgeon.

Roedd hi wedi rhannu erthygl yn y Financial Times sy’n dweud bod San Steffan eisiau rheoli’r polisi o roi cymorth gwladwriaethol yn dilyn cyfnod trosglwyddo Brexit.

Fe fyddai hynny’n arwain at wrthdaro gyda Senedd Cymru a’r Alban, sydd am i’r grymoedd yma gael eu datganoli, meddai.

“Peidiwch â chamgymryd, byddai hyn yn ymosodiad lawn ar ddatganoli- cam amlwg i erydu pwerau Senedd yr Alban mewn meysydd allweddol. Os yw’r Torïaid am roi hwb pellach i gefnogaeth ar gyfer annibyniaeth, dyma’r ffordd i’w wneud.”

Mae’r Aelod or Senedd yng Nghymru, Alun Davies, hefyd wedi ategu ei sylwadau gan ddweud ar Twitter ei fod yn cytuno â Nicola Sturgeon.

Pen ac ysgwydd o Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg
Alun Davies

“Mae’n anodd gweld sut y mae datganoli a’r Deyrnas Unedig yn gweithio os gall Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid y rheolau sut bynnag, a phryd bynnag,” meddai Alun Davies, AS y Blaid Lafur ym Mlaenau Gwent.

Mae Golwg360 wedi holi am ymateb pellach gan Alun Davies.