Mae Prifysgol Bangor am ymchwilio er mwyn darganfod pam ei bod hi mor anodd recriwtio staff dwyieithog.
Daw’r anawsterau er bod cryn alw am swyddi’n lleol.
Dros gyfnod o flwyddyn, bydd y prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau wrth recriwtio staff dwyieithog, a darganfod beth sy’n gyrru penderfyniadau oedolion ifainc 18 i 35 oed sy’n dewis gadael eu milltir sgwâr, yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg – Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Cronfa Her Fawr Arfor, cynllun ar y cyd rhwng cynghorau’r pedair sir sy’n ariannu’r prosiect ymchwil fydd yn defnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a chynnal yr iaith.
Trwy’r prosiect, bydd pecyn ymarferol yn cael ei greu fydd o ddefnydd i gyflogwyr wrth iddyn nhw ddatblygu eu cynlluniau recriwtio.
Y tîm
Dan arweiniad Dr Cynog Prys o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, bydd y tîm ymchwil, sy’n arbenigo mewn cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, yn cynhyrchu pecyn o adnoddau ar gyfer cyrff cyhoeddus, busnesau’r sector preifat a mudiadau trydydd sector.
Hefyd yn rhan o’r tîm mae Dr Rhian Hodges ac Elen Bonner, myfyrwraig sy’n gwneud doethuriaeth yn y brifysgol.
Mae’r prosiect yn adeiladau ar waith ymchwil presennol Elen Bonner, ymchwilydd y prosiect, ar yr economi a’r Gymraeg.
Cafodd y gwaith hwn ei wneud o dan nawdd Ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y tîm ymchwil yn cynnal cyfweliadau gyda chyflogwyr yn ardaloedd Arfor, er mwyn casglu seilwaith data am yr heriau sydd yn eu hwynebu wrth iddyn nhw geisio recriwtio staff dwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
Bydd y tîm hefyd yn adeiladu ar seilwaith gwybodaeth PhD Elen Bonner i geisio deall cymhelliant oedolion ifanc dros aros, gadael neu ddychwelyd i’r cymunedau dan sylw.
‘Hel data o safon academaidd’
“Er mwyn mynd i’r afael â’r her, mae’n bwysig ein bod ni’n hel data o safon academaidd trwy weithio gyda’r sector gyhoeddus a phreifat, ynghyd â phobol ifanc,” meddai Elen Bonner.
“Dim ond trwy wneud hyn fedrwn ni greu pecynnau a rhannu canfyddiadau fydd â’r potensial i ddylanwadu ar bolisïau recriwtio a siapio strategaethau recriwtio’r dyfodol, a rhoi’r potensial mwyaf i sefydliadau a chwmnïau lenwi swyddi dwyieithog yn llwyddiannus.
“Wedi i ni gwblhau’r gwaith ymchwil, byddwn yn gweithio gyda dylunydd proffesiynol i greu adnoddau ymarferol fydd yn helpu cyflogwyr i ddeall yr heriau recriwtio a dysgu am ymarfer da yn y broses recriwtio.”
Mae disgwyl i’r prosiect fwydo’r canfyddiadau yn ôl ym mhedair sir Arfor trwy weithdai ym mis Medi, a bydd digwyddiad i gloi’r prosiect ym Mhrifysgol Bangor fis Tachwedd.
Goresgyn heriau a rhwystrau
“Mae cynllun Prifysgol Bangor am fod yn gyfle gwych i gyd-weithio gyda’r Sector Cyhoeddus, Preifat a Trydydd Sector ar draws Rhanbarth ARFOR i fynd i’r afael â’r her o recriwtio siaradwyr Cymraeg,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, ar ran Bwrdd ARFOR.
“Bydd y gwaith yma yn gymorth i adnabod yr heriau a’r rhwystrau yn y maes, ac yn cynnig ffyrdd i’w goresgyn.”
Yn ôl Dr Cynog Prys, “bwriad y prosiect yw creu gwaddol hirdymor fydd yn galluogi oedolion ifanc sy’n medru’r Gymraeg i aros neu ddychwelyd i Gymru drwy eu paru gyda chyfleoedd gwaith”.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’r gyda’r holl bartneriaid i gynhyrchu gwaith o safon uchel fydd yn cael effaith ar lawr gwlad drwy gyfrannu at ddatblygiad economaidd llwyddiannus yr ardal, a drwy hynny cefnogi cymunedau iaith Gymraeg o fewn y broydd hyn,” meddai.