Mae Ynyr Roberts a’i frawd Eurig yn dathlu ugain mlynedd ers sefydlu eu band Brigyn y mis hwn. Cafodd eu halbwm gyntaf ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2004 ac ers hynny maen nhw wedi cyfareddu gyda’u cerddoriaeth melodig gwerinol/electronica.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Brigyn wedi rhyddhau saith albwm llawn, chwe sengl/ep, ac wedi perfformio’n ddi-dor drwy gydol y cyfnod hwn.
“Roedd perfformiad cyntaf Brigyn ar 1 Tachwedd, 2004 yn siop Llên Llŷn Pwllheli,” cofia Ynyr Roberts. “Ac mae ‘na goeden hynafol yn Rhandirmwyn [yn Sir Gaerfyrddin] sy’n ddigon mawr i chi fynd mewn iddi. Fe wnaethon ni gig i lansio ein hail albym (Brigyn 2) nôl yn Hydref 2005 tu mewn i’r goeden!”
Mae Brigyn yn fwyaf adnabyddus am eu fersiwn unigryw o ‘Haleliwia’ Leonard Cohen – “cân wnaethon ni ddechrau ei chanu ddiwedd 2005 ond cael yr hawl i’w rhyddhau yn 2008. Mae geiriau arbennig Tony Llewelyn a threfniant Nia Davies-Williams wedi taro tant gyda nifer fawr o bobl dros y byd, a phleser oedd cael bod y grŵp cynta’ i roi’r gân ar CD,” meddai Ynyr Roberts.
20 mlynedd o ‘harmoni a hwyl’
Mae’r ddau frawd o Eryri wedi cael nifer o uchafbwyntiau dros yr 20 mlynedd ddiwethaf gan gynnwys ennill y wobr am y gân orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn 2011 yn ogystal â’r “holl berfformiadau ym mhob cwr o Gymru, a chanu dramor yn Iwerddon, yr Alban, ac yn San Francisco! Roedd ein taith yn yr Ariannin yn 2010 yn un arbennig iawn. Y daith honno wnaeth ysbrydoli’r albym Dulog [Dulog = Armadillo, anifail sy’n gyffredin iawn ym Mhatagonia],” meddai Ynyr.
Yn wahanol i’r brodyr Liam a Noel Gallagher, sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar, dywed Ynyr ei fod yntau ac Eurig wedi cael 20 mlynedd “o harmoni a lot o hwyl” ers dechrau cyfansoddi a pherfformio dan yr enw Brigyn.
“Bydd 2025 yn flwyddyn o ddathlu – gan ddechrau gyda chyfres o gigiau dros y gwanwyn a gwyliau dros yr haf. Ymlaen i’r 20 mlynedd nesa!” meddai Ynyr.
Dyma gigs Brigyn yn 2025:
24 Ionawr – Y Cwtsh, Pontyberem
1 Mawrth – St John’s, Treganna, Caerdydd (bydd tocynnau ar gael yma am 10am, 1/11/24:)
6 Mawrth – Bank Vaults, Aberystwyth
25 Ebrill – Y Llew Gwyn, Tal-y-bont
17 Mai – Galeri, Caernarfon