Os wnaethoch chi ddarllen fy ngholofn ddiwethaf… neu os ydych chi’n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol… neu, yn wir, os buoch chi ene yn ‘Rough Hands’ yn Wrecsam y noson pan fues yn brif artist rai wythnosau yn ôl, byddwch yn gwybod fy mod eisoes yn defnyddio’r enw ‘Sara Erddig’ fel enw llwyfan, artist, a nom de plume.
Nid yw ailenwi fel hyn yn beth anghyffredin ymysg y Cymry Cymraeg, wrth gwrs. Mae unrhyw un sy’n cael ei urddo i’r Orsedd yn creu enw i’w hun; fues i ene yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys 2022 draw yn Rhosllannerchrugog pan gafodd Aled Lewis Evans ei enwi’n ‘Aled O’r Gororau’, tra bod Gwyn Williams yn cymryd yr enw direidus ‘Pynciwr y Ponciau’. Ac aeth Chris Evans Saith Seren am y teitl mwyaf crand, sef ‘Seithennyn Maelor’!
Ond, wrth gwrs, dydw i heb gael fy urddo, naddo? Ac ni fyddaf byth yn ymuno â’r Orsedd chwaith – nid tra eu bod nhw dal yn glynu at yr ablaeth rhemp sydd wrth wraidd yr arholiad sydd raid ei basio i ymuno heb gael eu henwebu.
Ond hefyd, felly, dw i ddim am gyfyngu fy hun oherwydd fy mod i’n byw tu hwnt i feddylfryd cul a rhagfarnllyd y sefydliad a’r gymdeithas Gymraeg a Chymreig.
Mae yna lond byd o enghreifftiau a thraddodiadau o ailenwi unigolion, ac am ystod eang o resymau.
Onomasteg, maes enwau
Cefais yr enw ‘Sara’ gan fy rhieni, oedd am i mi gael enw ‘Cymraeg’ fysa fy nheulu di-Gymraeg ar ochr Mam yn medru ei ynganu. Ond methiant fu hyn yn anffodus, gan i bawb fy ngalw i’n ‘Sarah/Sera’, a’r Cymry Cymraeg yw rhai o’r culprits gwaethaf! Mae’n debyg nad yw’r enw ‘Louise’ yn syth ar ei ôl o’n helpu dim…
Fel y medrwch ddychmygu, mi wnes i syrffedu ar hyd y blynyddoedd wrth orfod cywiro pobol. Ond yn ddigon ysmala, mi wnaeth hyn fagu diddordeb mawr ynof fi mewn enwau.
Ac yn y bôn, dyma sut ddes i at faes academaidd ‘onomasteg’, a chael fy nghyflwyno drwy hynny i lwythi o bobol a storïau hynod ddiddorol a hyfryd – gan gynnwys bod yn aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Names – a journal of onomastics, oedd yn bluen yn fy het wrth geisio gyrfa academaidd.
Mae enwau personol yn bethau pwerus, ac mae ailenwi yn cael ei weld fel gweithred bositif dan lawer o amgylchiadau gwahanol. Er enghraifft, mae yna draddodiad o ailenwi fel ymateb i salwch.
Wrth gwrs, mae llu o enghreifftiau o unigolion adnabyddus yn ailenwi eu hunain, megis Cassius Clay yn newid ei enw i Muhammad Ali, a hynny am resymau dwys oedd yn esgor ar sgyrsiau pwysig am gaethwasiaeth, hil a chrefydd.
Cafodd Mohandas Karamchand Gandhi yr enw anrhydeddus ‘Mahatma’ gan y bardd Rabindranath Tagore, gyda’r enw newydd yn golygu ‘enaid mawr’ (Great Soul) yn yr iaith Sanskrit.
Ac wrth fy nghyflwyno ym Mragdy’r Beirdd draw yn Wrecsam yn ddiweddar wrth fy enw llwyfan a nom de plume newydd, mi wnaeth y Prifardd Llŷr Gwyn Lewis ddweud “yr artist formally known as…“, gan godi het i gyfeiriad y cerddor wnaeth ailenwi ei hun hefo symbol na ellid ei ynganu, er mwyn ysgogi ffordd newydd o feddwl, a thiwnio mewn i amledd gwahanol.
Mae yna sawl Sara ynof fi…
Yn fy nghyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, A Goareig patchwork Quilt, mae’r gerdd ‘Sara bach and Sara gas’, lle dw i’n sôn am wahanol agweddau ar fy mhersonoliaeth, a’r ffaith eu bod nhw ynghlwm â Saras penodol, o wahanol gyfnodau a chyd-destunau yn fy mywyd.
Cafodd y fersiwn Gymraeg ei chyhoeddi yn rhifyn 361 o’r cylchgrawn Barddas, ynghyd ag ysgrif yn ymhelaethu ac yn sôn am sut wnaeth y syniad fod yna “sawl Sara ynof fi” wir daro deuddeg hefo un o’r golygyddion – sy’n beth ffodus, oherwydd roeddwn i wedi poeni bod y gerdd yn rhy weird, ac roeddwn wedi meddwl ei thynnu cyn gweld nodyn clên Yasmine!
Edwards oedd fy nghyfenw nes i mi briodi yn 30 oed. Mae’n yn gyfenw cyffredin, wrth gwrs, sydd â hanes ynghlwm â’r system enwi Cymraeg yn cael ei disodli gan system enwi ryngwladol, a hynny drwy droi enw cyntaf gwrywaidd yn gyfenw sefydlog; mae’n dilyn patrwm patronymig o basio’r cyfenw o ochr y tad yn unig – reit “sexist“, fel dywedodd mam y teulu Sbaeneg fues i’n aros â nhw un tro!
Nid oedd yr enw ‘Edwards’ yn dweud ryw lawer amdanaf, ac roedd mor gyffredin nes nad oedd bron yn gyfenw o gwbl, ac yn achosi dryswch rhyngof fi a phob un Sara Edwards arall! Ac roeddwn i’n mo’yn cymryd cyfenw fy ngŵr, gan ymfalchïo yn y cysylltiad hefo fo. Ac, yn wir, byddaf dal yn ymfalchïo yn hyn yn fy mywyd preifat. Ond eto, nid yw’n dweud ryw lawer amdanaf i fel unigolyn, heblaw am y ffaith fy mod yn wraig.
Ychwanegu Sara newydd
Pan ddechreuais ysgrifennu, perfformio a gwneud gwaith celf, roedd yn fwy fel hobi – rhywbeth i fy helpu i iachau ar ôl colli fy ngyrfa fel academydd. Ond erbyn hyn, rwy’n berson creadigol llawrydd, a dyma fy ngwaith llawn amser. Ac yn hynny o beth, mae’n anodd gweld weithiau lle mae ‘Sara gwaith’ yn gorffen a ‘Sara adre’ yn dechrau!
Ac wrth fyfyrio ar hyn oll, yn fy ffordd ddwl arferol, meddyliais y byddai hi’n reit neis cael ffordd o greu ffin i mi fy hun, tra hefyd yn cysylltu fy mhersona creadigol hefo’r dirwedd sy’n rhan o’m henaid.
Lansiais fy mhersona newydd wrth i mi gymryd y meicroffôn fel headline act i Voicebox fis diwethaf, ac wrth baratoi’r delweddau marchnata, mi wnaeth arweinydd Voicebox, Natasha Borton, greu’r ddelwedd sy’n cyd-fynd â’r golofn yma, gan ddal y syniad bod yna sawl Sara ynof fi – a dw i wedi gwirioni’n lân hefo fo!
Ac felly, wnes i berfformio fy marddoniaeth, gair llafar, a chaneuon fel ‘Sara Erddig’, cyn dychwelyd adref gan deimlo boddhad yn fy nghreadigrwydd. Yna, gan wisgo fy ffedog ffyddlon, es i, ‘Mrs Wheeler’, ati i wneud siocled poeth i fi a fy ngŵr, gan deimlo boddhad yn fy llawenfyd domestig.
Mae sawl Sara ynof fi, oes, ac maen nhw i gyd yn dechrau ffeindio’u lle yn yr hen fyd ‘ma!