Eisteddais ar y bonc y tu fas i’r Stiwt, yn gwylio’r seremoni hynafol yn digwydd ar y maes isod. Roedd yr haul yn tywynnu’n braf ac roeddwn wrth fy modd yn clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad ym mro fy mebyd – a hynny yn nhafodiaith nodedig Rhosllannerchrugog.
Hyfryd oedd cael mynychu Eisteddfod Talaith a Chadair Powys 2022 (Gorffennaf 15 a 16) ac roeddwn yn teimlo’n bositif iawn am y Gymraeg yn ardal Wrecsam. Roedd pethau’n argyhoeddi’n dda… yna, fe glywais sgwrs wnaeth fy llorio’n llwyr, a daeth ias oer dros fy nghroen.
Roedd un o drefnwyr y digwyddiad wedi holi’r grŵp o bobl oedd yn eistedd yn agos i mi, a oedd yna unrhyw un ohonynt yn siarad Cymraeg. Wnaeth un o’r mamau amlygu ei merch ac fe roddwyd rhaglen (cyfrwng Gymraeg) iddi hefo gwên.
Perodd hyn i’r ddwy fam yn y grŵp ddechrau trafodaeth am yr iaith Gymraeg a’r ffaith fod ei phlant nhw wedi dysgu’r Gymraeg trwy addysg, er eu bod nhw eu hunain ddim yn siarad Cymraeg. Llwyddiant! Meddyliais…
Ond trodd y sgwrs yn sydyn. Naws y drafodaeth oedd bod y ddwy yn angerddol: pe caent eu hamser eto, ni fuasai’r naill na’r llall yn anfon eu plant i’r ysgolion cyfrwng Gymraeg.
Y broblem o bontio ar lefel addysg bellach
Dechreuais chwysu a theimlo’n anghyffyrddus – ni ddylwn i fod wedi gwrando ar y sgwrs yn y lle cyntaf, a doedd e ddim o fy musnes i. Ond roedd rhaid dweud rhywbeth, onid oedd e? Rhaid bod rhyw gamgymeriad wedi bod? Neu ryw ffwdan y byswn yn medru trafod hefo nhw, ffeindio rhyw gyfaddawd?
Dwi’n angerddol am yr iaith Gymraeg, yn enwedig yn y Gogledd Ddwyrain lle mae cyn lleied o bobol yn ei siarad – ac onid yr ysgolion yw’r ffordd orau o sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i ddod yn rhugl?
Yn ddigon digywilydd, wnes i barhau i wrando ar y sgwrs – yn wir roedd yn anodd ei hanwybyddu oherwydd roeddent yn siarad yn uchel ac yn ddreng erbyn hyn. Esboniodd un ohonynt fod ei merch yn awr yn y coleg cyfrwng Saesneg, ac mi roedd hi felly yn stryglo, er ei bod hi’n hogan glyfar ac yn gweithio’n galed.
Fel darlithydd addysg uwch hefo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers talwm, roeddwn wedi gweld y broblem yma o ben draw’r daith, lle’r oedd myfyrwyr wedi mynychu ysgolion cyfrwng Gymraeg, ond wedyn colegau cyfrwng Saesneg, ac felly roedd trawsnewid yn ôl i’r Gymraeg yn y brifysgol ’chydig yn lletchwith ac yn teimlo fel risg. Mae’r pontio ar lefel addysg bellach, rhwng ysgol a phrifysgol, felly yn broblem barhaus.
Siwrne bersonol
Yn wir, wrth feddwl, roedd fy mhrofiad i yn waeth fyth. Methais TGAU mathemateg ddwywaith cyn cael diagnosis o ddyslecsia a deall taw dyna oedd wrth wraidd fy anawsterau dysgu. Roedd hyn oll bach yn sarhaus o ystyried fod fy mhroblemau i mor amlwg, gan gynnwys drysu rhwng ‘d’ a ‘b’. Ond ateb yr athrawon i bryderon fy rhieni am hynny oedd bod o ddim byd i boeni amdano gan fod lot o blant Cymraeg yn gwneud hynny.
Ac felly, er gwaetha’r ffaith fod fy mrawd ddim yn cael y math yma o drwbl, fe feiwyd yr iaith Gymraeg ei hun, a ni archwiliwyd y mater nes i athrawes cyfrwng Saesneg ddŵad i’r ysgol uwchradd i addysgu Cymdeithaseg Lefel A i ni.
Methais Fathemateg trydydd gwaith tra hefyd yn astudio Lefel A. Er i mi basio Lefel A Llenyddiaeth Saesneg, methais Gymdeithaseg, ac Addysg Gorfforol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yna bu raid i mi drosglwyddo i Goleg cyfrwng Saesneg.
Yn y cyfamser, mi roeddwn wedi bod yn ddigartref ac yna’n hunangynhaliol, gan fyw mewn bed-sit a gweithio mewn tafarn.
Wnaeth un o fy nghydweithwyr, oedd hefo gradd mewn Mathemateg, gynnig tiwtora fi. Grêt! Eisteddon ni wrth un o’r byrddau bwyd ar ôl shifft a dechrau trafod. Ond sgwrs fer a fu, gan nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod y gair Saesneg am betryal! Ac nid wyf felly, byth, wedi llwyddo i basio TGAU Mathemateg.
Goblygiadau’r aml-amddifadu presennol
Ac felly, er fy mod yn parchu ysbryd ymgyrchoedd megis “Wish I spoke Welsh”, a Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr iaith, dwi hefyd yn teimlo y dylid cydnabod y naratifau negyddol hyn, ac ystyried sut i fynd i’r afael â’r problemau. I mi, byddai mwy o ddwyieithrwydd yn y system addysg wedi fy ngadael mewn gwell siâp i ailsefyll TGAU Mathemateg.
Ac wrth i’r Llywodraeth anelu at y ‘Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050’, ystyriwch hyn: O’r 90+ ohonom wnaeth astudio TGAU yn fy ysgol – y Class of ‘95 – ryw lond llaw ohonom sydd dal yn medru’r Gymraeg o gwbl.
Rhaid gofyn wedyn: a oes pwynt llenwi’r bwced, os oes yna dwll yn y gwaelod?