Mae’r actor Iwan Rheon a’r gantores Charlotte Church wedi cymryd rhan mewn fideo, sydd yn cael ei ryddhau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 5) i lansio llyfr newydd am goedwigoedd trofannol a newid hinsawdd ar gyfer yr elusen Maint Cymru.

Mae Elon yn adrodd hanes eliffant ifanc sy’n ceisio cael help gan ei grŵp o eliffantod i atal peiriannau rhag ceisio dinistrio ei choedwig.

Mae’r llyfr yn archwilio rhyfeddodau coedwigoedd trofannol ar hyd cyhydedd y ddaear, ac yn tynnu sylw at yr her mewn perthynas â datgoedwigo, sy’n achosi dinistr yn fyd-eang.

Mae’r llyfr yn ddwyieithog felly ar gyfer y fideo, mae Iwan Rheon yn darllen y llyfr yn Gymraeg, ac mae Charlotte Church yn ei ddarllen yn Saesneg.

“Natur a choedwigoedd yw ein hadnodd mwyaf pwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, felly roedd yn bleser darllen Elon i siaradwyr Cymraeg ifanc,” meddai Iwan Rheon.

“Rwy’n credu bod gan y llyfr neges bwysig, ac rwy’n gobeithio y gall ysbrydoli plant ar draws Cymru.”

‘Pobol ifanc heddiw yw arweinwyr yfory’

“Pobol ifanc heddiw yw arweinwyr yfory, ac mae angen iddyn nhw deimlo wedi’u grymuso i weithredu,” meddai Charlotte Church.

“Mae Elon yn ffordd wych o ledaenu’r neges am bwysigrwydd coed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”

Charlotte Church yn darllen
Charlotte Church

Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater sy’n pryderu llawer o blant ac felly, roedd Laura Murphy, Rheolwr Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid Maint Cymru a chrëwr Elon, eisiau cyfleu neges ysbrydoledig yn dweud y gallwch wneud rhywbeth i helpu, dim ots faint oed ydych chi.

“Dyw hi byth yn rhy gynnar i blant ddysgu am fyd natur a phwysigrwydd coedwigoedd ym mywydau pawb,” meddai.

“Drwy ysgrifennu Elon, roeddwn i eisiau i blant yng Nghymru a thu hwnt ddeall grym eu lleisiau, ac y gall unrhyw un wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fawr neu fach.

“Rwy’n ddiolchgar i’n ffrindiau, Iwan a Charlotte, am helpu i ledaenu’r neges bwysig hon.

“Diolch i Atebol am gyhoeddi’r llyfr, i Elin Crowley am y lluniau rhyfeddol, ac i Nia Parry am y geiriad Cymraeg hyfryd.”

Mae’r llyfr yn ddwyieithog, gyda’r rhannau Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Nia Parry a’r gwaith celf wedi’i greu gan yr artist Elin Vaughan Crowley, Swyddog Allgymorth Addysg Maint Cymru.

Mae’n cael ei gyhoeddi gan Atebol, ac yn cael ei ddosbarthu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Mae ar gael mewn siopau llyfrau annibynnol (mae rhestr ar gael yma), a thrwy Atebol ar-lein.

“Mae wedi bod yn bleser pur i gydweithio gyda thîm Maint Cymru i wireddu’r freuddwyd o greu llyfr stori newydd i blant sy’n profi fod gan bawb y gallu i newid pethau er gwell … pa bynnag mor fawr ydy’r broblem,” meddai Catrin Saunders-Jones o gwmni Atebol.