Fe ddenodd Cwpan y Byd nifer fawr o wylwyr i S4C ym mis Tachwedd, gyda darllediadau o gemau byw Cymru yn denu dwbl y gynulleidfa a wyliodd gemau Ewro 2020.

Bu S4C yn dangos sawl rhaglen i ddathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol dros y cyfnod  gan gynnwys Yma o Hyd, Tîm tu ôl i’r Tîm a Bois 58.

Dechreuodd ymgyrch Cymru yn ddigon addawol, wrth i dîm Rob Page sicrhau gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau yn ei gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 64 mlynedd.

Ond ni lwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd nesaf ar ôl colli dwy gêm yn olynol yn erbyn Iran a Lloegr.

Yn y cyfamser, mae ffigyrau S4C yn dangos fod cyfres newydd Gogglebocs Cymru wedi profi’n boblogaidd, gyda dros 210,000 yn gwylio ar draws y Deyrnas Unedig.

Roedd canran sylweddol o’r gynulleidfa rhwng oedran 22 a 45, gyda dau draean o’r gynulleidfa yn gwylio ar blatfformau dal i fyny S4C.

Torri record

Fe lwyddodd prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C i dorri record fel y mis gorau erioed am nifer y sesiynau gwylio fis Tachwedd, tra bod prif gyfrifon S4C wedi cyrraedd yr oriau gwylio gorau erioed.

Ac am y tro cyntaf, fe lwyddodd cyfrifon TikTok S4C – sy’n cynnwys S4C, S4C Chwaraeon a Hansh – i ddenu dros filiwn o wylwyr mewn mis.

Ymhlith y clipiau mwyaf poblogaidd roedd fideo o gwestiynau cyflym gyda Joe Allen ar gyfrif Facebook S4C Chwaraeon, fideo ar TikTok S4C o sgwrs gyda Rob McElhenney a chlip o Gemma Collins yn canu Yma o Hyd ar gyfrif Hansh.

“Calonogol”

“Roedd mis Tachwedd yn hynod o brysur wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 40, ymfalchïo yn ymddangosiad tîm bêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar, arddangos ein talent ragorol yng nghyngerdd Cymru i’r Byd yn Efrog Newydd, a lansio’r gyfres gyntaf o Gogglebocs Cymru,” meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“S4C yw cartref pêl-droed Cymru ac fe wnaethon ni droi’r sianel yn goch i ddangos ein cefnogaeth at dîm Cymru yn ystod Cwpan y Byd.

“Mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o’r daith gyda thîm pêl-droed Cymru a gweithio gyda’n partneriaid cynhyrchu i ddod ac arlwy ardderchog i’n cynulleidfa.

“Roedd yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol yn anhygoel, gyda mwy o bobl nag erioed yn troi atom a mwynhau ein cynnwys aml-platfform.

“Mae’n hynod o galonogol i weld yr holl gynnwys yn taro deg gyda’n chynulleidfa graidd a chynulleidfaoedd newydd, ar draws Cymru a thu hwnt.”