Dydy’r argyfwng costau byw “heb effeithio ar bobol yn mynd i gigs”, yn ôl y canwr a cherddor Elidyr Glyn o’r band Bwncath, sy’n dweud y gallem weld effaith yr argyfwng yn well y flwyddyn nesaf.

Fel pob band arall, roedd Bwncath yn gorfod terfynu canu’n gyhoeddus am gyfnod a chanu ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Mae pethau wedi mynd nôl i normal rŵan, meddai, gyda’r band yn canu’n gyhoeddus, wyneb yn wyneb ond yr argyfwng costau byw yw’r peth diweddaraf allai gael effaith ar ddiwydiant sydd eisoes dan bwysau.

Y daith i fod yn gerddor

Dechreuodd cariad Elidyr Glyn at gerddoriaeth flynyddoedd yn ôl, a datblygodd hynny fywfwy dros y blynyddoedd.

“Roeddwn yn cael gwersi piano pan yn fengach,” meddai wrth golwg360.

“Pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd, dysgais chwarae’r gitâr, roeddwn yn canu mewn Eisteddfodau ysgol pan oeddwn yn fach iawn, rwy’ wedi canu llawer iawn yn yr ysgol a chapel.

“Mae hynny wedi troi mewn i fi’n canu efo gitâr a dysgu caneuon, ac yna sgwennu rhai fy hun.

“Pan oeddwn yn y coleg, roeddwn yn perfformio mewn nosweithiau meic agored, a dechreuais i berfformio efo Gwilym Bowen Rhys.

“Roeddem yn chwarae cerddoriaeth werin, y ffidil a chanu, roeddwn i’n chwarae’r gitâr.

“Caneuon fy hun roeddwn i’n eu chwarae mewn gigs efo fo.

“Wnaethon ni ffurfio band yn y diwedd.”

Ysbrydoliaeth gan bobol, llefydd, digwyddiadau a storïau

Does dim byd, gan gynnwys y cyfnod clo na’r argyfwng costau byw, fyddai’n gallu rhwystro Elidyr Glyn rhag sgwennu a pherfformio’i ganeuon, ac mae am barhau i wneud hyn cyhyd â phosib.

Mae’n dal i sgwennu caneuon ac yn gobeithio eu rhyddhau nhw yn y dyfodol agos, ond o ble mae’r ysbrydoliaeth yn dod ar gyfer y caneuon mae’n eu hysgrifennu?

“Pobol, llefydd, digwyddiadau, storïau, pethau dw i wedi dod ar draws mewn bywyd,” meddai.

“O ran y geiriau, rwy’n cyfieithu fy mhrofiad o fywyd mewn i ganeuon a miwsig o ran emosiwn.”

Cyfnod tawel dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

“Mae’n braf cael bod ’nôl efo pobol wyneb yn wyneb yn perfformio go iawn,” meddai Elidyr Glyn wrth golwg360.

“Mae gigs yn arafu rhyw fymryn ar ôl yr haf, rydym ni wrthi drwy’r gaeaf.

“Rydym ni’n cymryd brêc rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.”