Bydd lleoliad cabaret newydd yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd yn y flwyddyn newydd.

Bydd Cabaret yn gartref i’r byd drag, bwrlésg, comedi, theatr gig a mwy, gyda digwyddiadau bob penwythnos, gyda digwyddiadau’n dechrau ym mis Chwefror.

Mae’n rhan o’r gwaith o drawsnewid Canolfan Mileniwm Cymru i fod yn hwb creadigol i bawb, a bydd lle i tua 120 o bobol yno.

Maen nhw’n addo gofod diogel lle gall pawb fynegi a mwynhau eu hunain.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen wedi cael ei churadu gan y cynhyrchydd Peter Darney, sydd eisoes wedi creu dwy sioe cabaret Nadoligaidd i oedolion y cafodd yr holl docynnau eu gwerthu ar eu cyfer yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – XXXmas Carol (2021) a The Lion, the B!tch and the Wardrobe (2022).

Bydd tymor agoriadol Cabaret yn cynnwys cydweithrediadau lleol â Chlwb Cabaret Caerdydd, Glitter Cymru a The Queer Emporium, yn ogystal â pherfformwyr teithiol poblogaidd fel Big Band Burlesque a Paulus sy’n adnabyddus o’r teledu ac sy’n dathlu cerddoriaeth Victoria Wood.

Bydd gwaith Canolfan Mileniwm Cymru ei hun hefyd yn cael ei weld ar y llwyfan.

Mae sioe Luke Hereford, Grandmother’s Closet, yn dychwelyd yn dilyn rhediad yng Ngŵyl Caeredin, a bydd y sioe Queerway, sy’n adrodd straeon bywyd pobol LHDTC+ o Rondda Cynon Taf yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf.

Bydd Cwm Rag, perfformwyr drag LHDTC o Gymru, yn dathlu ac yn cwestiynu beth yw ystyr bod yn Cwiar ac yn Gymreig yn eu sioe ddwyieithog, a bydd Steffan Alun yn cyflwyno Comedy Translates, noson gomedi ddwyieithog.

Bydd perfformiadau matinee ymlaciedig o Grandmother’s Closet a Judy & Liza ar gael i bobol sy’n byw gyda dementia.

Chwalu tabŵ a dathlu’r mislif fydd canolbwynt sioe arall, Blood, Glorious Blood!

‘Gwyllt, pryfoclyd a hwyliog’

“Gyda Cabaret roedden ni am greu rhaglen mor amrywiol â phosibl a gwneud yn siŵr bod popeth yn fforddiadwy yn ystod cyfnod mor anodd,” meddai Peter Darney, cynhyrchydd y rhaglen.

“Mae’n mynd i fynd yn wyllt, yn bryfoclyd ac yn hwyliog.

“Mae noson Bhangra, perfformiadau sy’n ystyriol o ddementia a rhywbeth i bobl ifanc a phobol ifanc eu hysbryd.

“Rydyn ni am greu cymuned arbennig yma yn Ne Cymru – gofod diogel lle y gallwch chi fod yn chi eich hun, darganfod eich hun ac ymgolli eich hun.”

Gellir gweld manylion llawn y tymor yma.