Mae arlunydd ym Mangor yn dweud nad yw’r “argyfwng costau byw heb effeithio llawer ar fusnes”, ond yn rhybuddio y gallai hynny newid o hyn ymlaen.

Mae Sioned Glyn, sydd hefyd yn athrawes, yn gwerthu ei gwaith celf gwreiddiol adeg y Nadolig, ac yn cynhyrchu printiau er mwyn cadw ei chostau ei hun i lawr.

Llwyddodd ei busnes i oroesi’r pandemig Covid-19, a hithau’n troi at ei gwaith celf am 3.30 bob dydd ar ôl gorffen ei gwaith dyddiol, gan orffen ei chyfres ‘Cymru gyfan’ yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ac er gwaetha’r argyfwng diweddaraf, mae hi’n dweud bod dal angen i bobol brynu anrhegion adeg yma’r flwyddyn.

Prosiect Cymru Gyfan

Ar gyfer y prosiect ‘Cymru Gyfan’, mae Sioned Glyn yn dylunio pob un sir a lle yng Nghymru, ac mae hi’n dweud mai er pleser ac nid er elw mae hi’n gwneud hyn.

Rhan o bwysigrwydd y gwaith, meddai, yw rhoi hanes ac enwau lleoedd Cymru ar gof a chadw.

Dechreuodd hi efo pum map a mynd yn ei blaen i ddylunio Eryri, Arfon ac Ynys Môn cyn mentro ymhellach, ac roedd hi wedi arddangos ei gwaith ym mis Mehefin.

Map o Gymru gan Sioned Glyn
Map o Gymru gan Sioned Glyn

“Wnes i fynd i Zambia, a dechreuais gan wneud dywediadau Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Mae pob artist yn gorfod dewis cyfeiriad ar adegau.

“Mae fy nghefndir yng nghaligraffi a sgrifennu Celtaidd.

“Roeddwn yn meddwl bysa fo’n cŵl gwneud y teithiau o Gaerdydd i Fangor.

“Dechreuais yn gwneud pethau bach doniol fel lle mae’r toiledau 20c.

“Meddyliais y bysa fo reit braf mynd i bob man yng Nghymru, a rhoddais sialens i fy hun byswn i’n gwneud bob man yng Nghymru.

“Rwyf wedi gwneud bob un sir a bob un lle yng Nghymru, mae gennyf 33 map, a chymerodd hi dair blynedd.

“Gwnes i un cyfan o Gymru sy’n bum troedfedd o uchder.

“Roedd hwnna a llawer o’r lleill yn yr arddangosfa yn Oriel Môn yn fis Mehefin.

“Roeddwn yn meddwl byswn yn cael job ffeindio enwau Cymraeg mewn ardaloedd fel Maldwyn.

“Ffeindiais enwau Cymraeg yng Nghymru i fwy neu lai bob dim, ond ni chefais i ddau, un yn Sir Benfro ac un yn ochrau Lloegr.”

Map Sioned Glyn o Lanberis
Map Sioned Glyn o Lŷn ac Eifionydd, ac o Lanberis

 

O’r fan honno, aeth yn ei blaen i ddechrau dylunio trefi, gan gwblhau Llanberis, Caernarfon, Pwllheli, Bangor, Llandudno a Rhuthun.

“Mae llawer yn gofyn i mi wneud pentrefi a threfi eraill,” meddai wedyn.

“Mae o’n cymryd tua 500 o luniau.

“Rwy’n gorfod mynd i gerdded y strydoedd i dynnu llun o bob un adeilad.

“Rwy’ wedi penderfynu cofnodi’r trefi a’r enwau strydoedd yn Gymraeg, yr adeiladau oherwydd mae’r siopau yn gallu newid.”

Gwaith ar y gweill

Y tu hwnt i’r prosiect hwnnw, mae Sioned Glyn bellach wedi dechrau arlunio llwybr arfordir Cymru, gan ddatblygu ar y syniadau unigryw sydd ganddi am gelf.

“Rwy’ wedi dechrau gwneud llwybr arfordir Cymru, a’r baeau,” meddai.

“Rwy’ wedi gwneud llwybr arfordir Môn, rwy’ newydd ddechrau llwybr arfordir Cymru o Fflint i Fangor.”

Yn ychwanegol at hynny, mae hi hefyd yn “gwneud taith bywyd pobol”, meddai, ond gan fod elfen bersonol i’r gwaith dydy hi ddim yn eu cyhoeddi nhw ar y we.

“Dwed bod rhywun yn 60, rwy’n ffeindio allan pa ysgol gynradd [aethon nhw iddi], man a dyddiad geni, pryd a pwy wnaethon nhw briodi, plant, pa ysgol uwchradd [aethon nhw iddi], pa goleg, landmarks eu bywyd.

“Mae o fel map.

“Rwy’n personoli. Mae pobol yn hoffi eu pethau nhw – fel tai, lle oedd eu neiniau a’u teidiau nhw’n byw, ble oedd y fynwent.

“Rwy’ wedi gwneud ychydig o gaeau ffermydd, enwau ffermydd Cymraeg.

“Ar ben-blwydd ffarmwr, mae teuluoedd yn dod ata’ i a gofyn am fap o’u cytiau buarth.

Word of mouth ydy’r daith bywyd a’r ffermydd.”