Fe fydd Nôl i Nyth Cacwn i’w gweld ar DVD cyn y Nadolig, yn dilyn y galw mawr i weld y ddrama dros yr haf.

Er bod Nyth Cacwn yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C yn 1989, un gyfres yn unig gafodd ei chomisiynu.

Ond yn hytrach na syrthio gan bwyll bach i ebargofiant, mae poblogrwydd y gyfres wedi tyfu a thyfu o ddegawd i ddegawd.

“Yn rhyfedd ddigon, plant a phobol ifanc yw dilynwyr selocaf Nyth Cacwn o’r wythdegau hyd y dydd hwn,” meddai Ifan Gruffydd, actor a chyd-awdur y gyfres.

“Mae hi pe bai’r ffarm fach deuluol hon wedi dod yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol cefn gwlad – yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Daeth yr unig gyfres honno i ben â Delyth, merch Nyth Cacwn, yn bwrw-gered i fola-berfedd y nos yng nghwmni Wiliam, y gwas, gan adael syrpreis ei pharti dyweddïo o’i hôl.

Ers hynny, mae cenedlaethau o ddilynwyr wedi crafu pen o ran y cwestiwn mawr, sef beth ddigwyddodd wedyn?

Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dyma’r cwestiwn mae’r ddrama – o’r diwedd – yn ei ateb, wrth i Wiliam fentro’n ôl i glôs Nyth Cacwn am y tro cyntaf ers y noson ddramatig honno.

Cafodd Nôl i Nyth Cacwn ei ffilmio o flaen cynulleidfa fyw yn Theatr Felin-fach fis Hydref eleni.

‘Tipyn o brofiad’

“Mae llwyfannu’r ddrama wedi bod yn dipyn o brofiad,” meddai Ifan Gruffydd.

“Gyda gymaint o alw am docynnau, â’r fath ymateb i bob perfformiad, mae’n amlwg fod dal lle cynnes iawn i’r ffarm fach hon a’i chymeriadau yng nghalonnau gymaint o bobol.

“Gwych o beth oedd ffilmo’r perfformiad olaf yn Felin-fach – lond theatr o bobol ynghyd yng nghegin Nyth Cacwn yn cydymdeimlo, cyd-lawenhau a chyd-chwerthin yn iach.”