Helen Prosser o Donyrefail yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Wrth i’r Eisteddfod baratoi at ymweld â’r ardal am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd yn 2024, mae trefnwyr y brifwyl wedi cyhoeddi enwau swyddogion yr ŵyl.

Andrew White o Lanharan sydd wedi cael ei ethol yn is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, ac Iolo Roberts o Efail Isaf fydd Cadeirydd y Gronfa Leol.

Mae swydd ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith dal yn wag.

Mae prosiect Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi cychwyn ers peth amser, gyda chynllun cymunedol yn cael ei redeg ar lefel meicro-leol mewn cymunedau ar draws yr ardal er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod, yr iaith a’r diwylliant.

Yn ogystal, mae grŵp llywio wedi cyfarfod dros y misoedd diwethaf er mwyn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer ymweld yr Eisteddfod â’r ardal.

Helen Prosser

Yn wreiddiol o ardal Rhondda Cynon Taf, mae Helen Prosser yn gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bu’n arwain y sector dysgu Cymraeg yn yr ardal am gyfnod hefyd.

“Mae ymweliad yr Eisteddfod â’n hardal ni’n gyfle i ddangos bod gennym ddiwylliant modern, cyffrous a chynhwysol a bod croeso i bawb, a bydd hon yn neges bwysig gen i dros y cyfnod nesaf,” meddai Helen Prosser.

“Bydd y flwyddyn a hanner nesaf yn her ond hoffwn weld pobl sydd wedi cael addysg Gymraeg yn yr ardal yn gweld yr Eisteddfod fel cyfle i ddod yn ôl at ein hiaith.”

Andrew White

Dechreuodd Andrew White ddysgu Cymraeg ar ôl ymweld ag Eisteddfod Casnewydd pan oedd yn 17 oed, ac mae wedi sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yn y teulu erbyn hyn.

Andrew White yw Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, a chyn ymuno â’r sefydliad, bu’n Gyfarwyddwr Stonewall Cymru am flynyddoedd.

Mae’n frwd iawn dros gyfrannu at Eisteddfod sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o gymunedau ar draws y fro.

Iolo Roberts

Newyddiadurwr gyda’r BBC yng Nghaerdydd yw Iolo Roberts, ac mae’r Eisteddfod wedi bod yn “rhan fawr” o’i fywyd erioed ac yntau wedi bod yn mynychu a chystadlu’n flynyddol ers iddo fod yn blentyn.

Dywed fod ymweliad yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ddod â’r ardal at ei gilydd ac i gymryd camau mawr yn yr ymdrech i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Iolo Roberts, mae’r flwyddyn a hanner nesaf yn gyfle i adeiladu ar y brwdfrydedd a’r cariad at yr iaith sy’n bodoli ym mhob cwr o’r tri chwm.

‘Gŵyl i’w chofio’

Wrth groesawu’r tri, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses eu bod nhw’n edrych ymlaen at weithio gyda Helen Prosser, Iolo Roberts ac Andrew White dros y cyfnod nesaf.

“Byddwn yn dechrau hyrwyddo cyfleoedd i ymuno â’n pwyllgorau a grwpiau lleol yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd, er mwyn cychwyn ar y gwaith pwysig o drefnu’r Brifwyl yn yr ardal.

“Mae ardal Rhondda Cynon Taf yn rhan bwysig o hanes yr Eisteddfod.

“Cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf yn Aberdâr yn 1861, ac er nad ydyn ni wedi cynnal ein gŵyl yn lleol ers 1956, rydyn ni wedi ymweld â Rhondda, Cynon a Thaf yn eu tro.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal ac at gydweithio gyda Helen, Iolo, Andrew a’r tîm a fydd yn dod ynghyd ddechrau’r flwyddyn i sicrhau bod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 yn ŵyl i’w chofio yn genedlaethol yn ogystal â lleol.”

Bydd y gwaith o greu’r pwyllgorau testun a’r pwyllgorau lleol yn cychwyn yn y flwyddyn newydd, gan fynd ati i greu’r rhestr testunau ynghyd â grwpiau cymunedol a fydd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth a gosod sail gref i’r gronfa leol.

Eisteddfod y Rhondda yn “hwb enfawr i’r Gymraeg” yn yr ardal

Cadi Dafydd

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn Nhreorci am y tro cyntaf ers 50 mlynedd dros y penwythnos