Drideg mlynedd yn ôl, llais Alun Thomas oedd y cyntaf ar orsaf newydd Radio Ceredigion.

“Cyffro mawr” oedd y teimlad ar Ragfyr 14 1992, meddai’r cyflwynydd sydd bellach yn gweithio fel gohebydd i’r BBC.

Roedd yr orsaf yn cael ei hystyried fel un ddwyieithog, a daeth i ben ychydig flynyddoedd yn ôl pan gafodd ei disodli gan Nation Radio, sy’n uniaith Saesneg.

Prynodd Nation Broadcasting, oedd yn defnyddio’r enw Town and Country Broadcasting ar y pryd, yr orsaf yn 2010, gyda’r drwydded yn nodi bod rhaid iddyn nhw gynnig darpariaeth Gymraeg yn “gyson”.

Pan gafodd y sianel ei disodli gan Nation Radio yn 2019, roedd un rhaglen Gymraeg yr wythnos arni, a hynny am awr ar nos Sul.

Ond, roedd blynyddoedd cyntaf Radio Ceredigion yn y 90au yn “gyfnod cyffrous”, meddai Alun Thomas wrth edrych yn ôl.

“Roedd lot ohonom ni’n ifanc iawn, roeddwn i’n syth mas o’r coleg, wedi mynd yn syth i weithio i’r orsaf,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yna griw wedyn o wirfoddolwyr yn bob rhan o’r sir oedd yn amlwg eisiau gweld y peth yn llwyddo.

“Wedyn roedd gen ti’r arweinwyr wedyn, yn bennaf Elvey MacDonald achos ei freuddwyd fawr ef oedd sefydlu’r orsaf a gweld yr orsaf yn llwyddo.

“Roedd yna lot o waith, doedd lot ohonom ni ddim yn siŵr iawn beth oedden ni’n ei wneud achos ein bod ni’n griw ifanc, ond roedd o’n gyfnod cyffrous, yn bennaf.”

Llais cyntaf yr orsaf

Fe fuodd Alun Thomas yn gweithio ar yr orsaf am dair blynedd rhwng 1992 a 1995, gan gyflwyno rhaglen frecwast oedd yn cynnwys rywfaint o newyddion a cherddoriaeth hefyd.

“Fi oedd y llais cyntaf ar yr orsaf, fi wnaeth agor y gwasanaeth drideg mlynedd yn ôl am hanner awr wedi chwech yn y bore, dw i’n cofio fe’n glir,” meddai.

“Roedd e’n wasanaeth oedd yn cael ei werthfawrogi dw i’n meddwl, y ffaith ein bod ni’n gwbl ddwyieithog.

“Roedd y rhaglen oeddwn i’n ei gwneud yn y boreau yn gwbl ddwyieithog.

“Yr argraff oedden ni’n ei gael fel criw oedd bod yr holl beth wedi denu diddordeb pobol yn lleol.

“Roedd y gwasanaeth yn dibynnu gymaint ar wirfoddolwyr yn y dyddiau cynnar yna, roedd yna griw mawr yn dod o Theatr Felin-fach i gyfrannu rhaglenni. Yn amlwg, roedd e’n rhywbeth oedd pobol yn mwynhau ei wneud.

“Roedd gen ti bobol amlwg o’r sir oedd yn cyflwyno hefyd, roedd Lyn Ebenezer yn cyflwyno rhaglen yn y dyddiau cynnar, Phyllis Kinney yn cyflwyno, Sue Jones Davies yr actores, Doreen Lewis y gantores, Linda Griffiths…

“Roedd yna gefnogaeth gan bobol amlwg o’r sir.”

Addysg i griw ifanc

I griw ifanc ar ddechrau eu gyrfa, roedd gweithio ar orsaf leol yn addysg hefyd.

Fe wnaeth sawl enw adnabyddus ym maes darlledu ddechrau eu gyrfa gyda Radio Ceredigion, gan gynnwys Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, Geraint Lloyd, ac Oliver Hides, sy’n cyflwyno ar BBC Radio Wales.

“Mae’n rhaid cyfeirio hefyd at gyfraniad Teleri Bevan, daeth hi mewn fel ryw fath o ymgynghorydd oedd yn dod yn ôl i’w sir enedigol i helpu’r criw ifanc yma,” ychwanega Alun Thomas.

“Roedd hynny’n amhrisiadwy, cael rhywun efo chymaint o brofiad darlledu yn fodlon rhoi o’i hamser i roi ni ar ben ffordd.

“Dw i’n credu y bydden ni i gyd oedd yna ar y dechrau yn dweud y dysgon ni lot. Ti’n dysgu wrth wneud, wrth ddarlledu ar yr awyr.

“Dw i’n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni oedd yna ar y dechrau efo dim profiad o gwbl, neu ychydig iawn o brofiad, ond lot o frwdfrydedd.”