Mae’r actores ac awdures Ffion Dafis wedi’i phenodi’n gadeirydd newydd cwmni Pyst Cyf, sydd hefyd wedi penodi bwrdd rheoli newydd fydd yn weithredol am dair blynedd.

Mae’r cwmni, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gyfrifol am ddau wasanaeth, sef system dosbarthu cerddoriaeth digidol PYST, a gwefan ac ap AM.

Wedi’i sefydlu yn 2020, mae AM yn cynnwys gwybodaeth, cysylltiadau, rhestrau digwyddiadau, a thros 350 o sianelau sydd yn gyfuniad o sefydliadau ac unigolion creadigol yng Nghymru.

Yn ôl y cwmni, daeth 250,000 o ddefnyddwyr i’r wefan yn y 12 mis diwethaf.

Aelodau eraill y bwrdd yw:

  • Nico Dafydd – awdur-gyfarwyddwr ac ysgogydd creadigol
  • Owain Gwilym – cerddor ac ymchwilydd sy’n gweithio i Gelfyddydau Anabledd Cymru
  • Osian Gwynn – cyfarwyddwr canolfan Pontio, Bangor
  • Seren Jones – newyddiadurwraig a chynhyrchydd podlediadau
  • Angharad Lee – cyfarwyddwr theatr a sylfaenydd Cynyrchiadau Leeway
  • Efa Lois – arlunydd ac awdur sydd â chefndir ym maes pensaernïaeth
  • Mike Parker – awdur, darlledwr ac ymgyrchydd
  • Jalisa Phoenix-Roberts – cantores, actores a pherchennog busnes
  • Casia Wiliam – bardd ac awdur sy’n gweithio i’r mudiad gweithredu ar newid hinsawdd, GwyrddNi

‘Dim byd llai na hanfodol’

Ar ôl cael ei phenodi, dywedodd Ffion Dafis fod y “celfyddydau yng Nghymru yn cael eu hamddifadu ar ormod o lefelau,”

“Mae platfform AM yn cynnig lloches i’r rhai sy’n creu,” meddai.

“Tydy o’n ddim byd llai na hanfodol.

“Fy mraint yw cael cadeirio bwrdd o bennau creadigol mwyaf blaenllaw Cymru.”