Yn ystod yr argyfwng costau byw, mae pobol yn prynu llai o bethau nad ydyn nhw’n angenrheidiol.

Dydy darllen ddim yn angenrheidiol, ond mae’n oesol ac mae pobol wastad wedi darllen.

Felly, beth yw effaith yr argyfwng ar brynu llyfrau?

Mae golwg360 wedi bod yn holi dau berchennog siop lyfrau – Aled Rees o Siop y Pethe, Aberystwyth, ac Eirian James o Palas Print yng Nghaernarfon

‘Gwario llai ar bopeth’

Yn ôl Aled Rees, mae gwerthiant llyfrau wedi gostwng, fel popeth arall.

Mae’n credu bod pobol yn gwario llai yn gyffredinol oherwydd yr argyfwng, ac yn gwario mwy ar y pethau angenrheidiol.

Digon anffodus yw effaith hynny ar ei siop lyfrau.

“Dw i ddim yn gwybod os ydy’r ffaith bod y gwerthiant llyfrau i lawr eleni i wneud efo llyfrau neu rywbeth yn gyffredinol,” meddai.

“Dw i’n credu bod pobol yn gwario llai ar bopeth.

“Efallai bod pobol efo pethau pwysicach i boeni amdano na llyfrau, sydd yn anffodus i siop lyfrau. Rydym yn deall yr argyfwng.

“Mae’n well bod pobol yn rhoi gwres yn eu cartrefi a bwyd yn eu boliau na phrynu llyfr, er dydy hynny ddim yn helpu busnes fel ni.

“Mae’r gwerthiant ar bopeth yn y siop, fel cardiau, i lawr.”

Heriau cymhleth i Palas Print

Gwahanol iawn – a llawer mwy cymhleth – yw’r sefyllfa yng Nghaernarfon.

Yn ôl Eirian James, mae’r heriau o werthu llyfrau yn fwy cymleth na’r argyfwng costau byw yn unig.

Mae’n dweud bod pobol yn fwy pwrpasol am faint maen nhw am ei wario ar lyfr.

Mae pobol dal yn gweld gwerth darllen yn enwedig plant yn darllen, meddai.

Mae hi’n credu bod pobol yn cael gwerth eu harian wrth brynu llyfrau, a dydy prisiau ddim yn newid llawer yn ôl yr economi.

“Mae’n gwerthiant ni i fyny ers llynedd, a rhywbeth yn debyg i beth oedd cyn y pandemig,” meddai.

“Mae tystiolaeth i ddangos bod llyfrau’n un o’r pethau sy’n cael eu heffeithio lleiaf.

“Pan mae yna gynnydd, dydyn nhw ddim yn gostwng gymaint â phethau eraill sy’n cael eu categoreiddio.

“Pan mae yna boom, dydy llyfrau ddim yn mynd mor uchel â phethau cyfatebol.

“Rwy’n siŵr ei fod e’n cael dylanwad.

“Rwy’n meddwl bod yna wahanol bethau o flwyddyn i flwyddyn sy’n effeithio ar batrymau prynu pobol.

“Bob blwyddyn mae yna wahanol heriau i’w hwynebu ym mha bynnag faes wyt ti mewn gwirionedd.

“Rwy’n sylweddoli bod pobol yn fwy pwrpasol pan maen nhw’n dod i siopa, eu bod nhw wedi meddwl o flaen llaw faint maen nhw eisiau ei wario.

“Rwy’ hefyd yn meddwl bod pobol yn gwerthfawrogi bod llyfrau yn good value a’u bod nhw’n bresantau da.

“Ti’n gallu cael llyfr gwerthchweil i rywun am lai na £10.

“Mae o’n gweithio’r ddwy ffordd.

“Rwy’n meddwl, o bosib, ein bod ni’n gwerthu llai o lyfrau drud mawr, £50 a mwy.

“Rwy’n meddwl bod pobol yn fwy gofalus ar beth maen nhw’n gwario arian.

“Mae yna nifer o rieni sy’n awyddus i’w plentyn gael llyfr yn ei hosan neu dan y goeden.

“Rydym yn lwcus bod digon o lyfrau i blant sy’n rhesymol o ran costau.

“Wrth gwrs, mae o’n mynd i gael effaith ond rwyf yn meddwl bod pobol ychydig yn fwy gofalus am faint maen nhw’n mynd i wario.”

Gwerth darllen

Mae pobol wedi bod yn darllen trwy’r oesoedd, ac mae hyn yn parhau yn yr argyfwng costau byw.

Yn ôl Eirian James, mae darllen yn cynnig “cysur, dihangfa a gobaith i bobol mewn cyfnod tywyll”.

“Mae darllen yn gallu helpu pobol i ddeall eu hunain a’r byd o’u cwmpas, i weld y byd trwy lygaid eraill, i ddysgu,” meddai.

“Mae llyfrau yn gallu bod yr holl bethau yna a mwy, ac yn gallu bod yn wahanol bethau i wahanol bobol ar wahanol adegau yn dibynnu ar ble maen nhw ar eu taith.

“Mae’n ffordd i ddechrau sgwrs ac agor trafodaeth.

“Mae o’n ffordd i ni feddwl.

“Rwy’n meddwl am blant, pobol ifanc ac oedolion.

“Mae o’n ddrych hefyd, gelli weld dy hun mewn llyfrau.”