Roedd cynnal Eisteddfod y Rhondda am y tro cyntaf ers 50 mlynedd dros y penwythnos yn “hwb enfawr i’r Gymraeg” yn yr ardal.

Yn ôl un o drefnwyr yr Eisteddfod, a gafodd ei chynnal yn Nhreorci dydd Sadwrn (Tachwedd 19), roedd cefnogaeth arbennig ar gyfer y digwyddiad.

Cafwyd 230 o geisiadau ar draws 17 cystadleuaeth, ynghyd â chystadleuaeth celf i ysgolion cynradd, ac roedd Capel Hermon “dan ei sang” drwy’r dydd, yn ôl Seren Macmillan.

Gyda chystadlaethau ar gyfer oedran cynradd ac uwchradd, ynghyd â chystadlaethau agored, bu’r Eisteddfod yn gweithio gydag ysgolion lleol.

“Roedd e’n wych achos roedd gymaint o gefnogaeth gyda ni, roedd ciwiau tu fa’s i’r drws,” meddai Seren Macmillan, sy’n aelod o Bwyllgor yr Eisteddfod, wrth golwg360.

‘Hwb i’r Gymraeg’

Gyda’r Brifwyl yn ymweld â Rhondda Cynon Taf yn 2024, roedd yr Eisteddfod yn gyfle i roi hwb i’r Gymraeg cyn hynny.

Y bwriad ydy cynnal Eisteddfod y Rhondda bob blwyddyn tua’r un adeg o’r flwyddyn, a hynny yng nghyffiniau Treorci.

“Mae pobol yn cefnogi ac wedyn ffeindio’u hunan o gwmpas y Gymraeg yn naturiol,” meddai Seren Macmillan.

Seren Hâf Macmillan

“Mae’r ffaith bod cymaint o ddisgyblion, rhieni, wedyn pobol o’r gymuned wedi dod i gefnogi’r digwyddiad yn sicr yn mynd i hybu’r Gymraeg yn yr ardal.

“Roedd e bendant yn hwb enfawr ar gyfer y Gymraeg.

“Fe wnaethon ni gysylltu â phob ysgol, ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg, a chwarae teg roedd lot o gefnogaeth gan nifer o ysgolion – roedden ni’n lwcus.

“Roedd cystadleuaeth celf hefyd ar wahân i’r cystadlu. Roedd artist lleol, Siôn Tomos Owen, wedi paratoi llun er mwyn i ysgolion cynradd, y cyfnod sylfaen, allu cyd-liwio.

“Roedd hi’n gystadleuaeth ar y cyd gyda’r Eisteddfod, ac roedd hi’n neis eu bod nhw’n gallu bod yn rhan drwy hynna, yn ogystal â’r cystadlu ar y llwyfan.”

Y capel “dan ei sang”

Ychwanega Seren Macmillan fod y capel “yn orlawn”, a’r gefnogaeth yn amlwg yn yr ardal.

“Roedd hi’n lyfli gweld pobol yn mynd a dod yn ystod y dydd, roedd amrywiaeth o gefnogwyr.”

Mae Seren Macmillan yn un o sylfaenwyr Aelwyd Cwm Rhondda, a gafodd lwyddiant yn y Parti Llefaru a’r Ensemble Lleisiol, yn ogystal â dod yn ail i Gôr Meibion Treorci yng nghystadleuaeth y côr.

Aled Evans yn ennill y Gadair yn yr Eisteddfod