Bu farw’r actor, William Vaughan (William Williams) o Riwbeina yng Nghaerdydd yn 88 oed.

Bu farw ar Dachwedd 3 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Ymddangosodd ar S4C yn nyddiau cynnar y sianel mewn rhaglenni fel Pobol y Cwm a’r gyfres dditectif Gwydion.

Bu’n perfformio hefyd mewn cyfresi teledu Saesneg fel Excalibur: The Search for Arthur, A Mind to Kill, Robin of Sherwood a The District Nurse, ac mewn ffilmiau fel Darklands, On the Black Hill a The Christmas Stallion.

Bu hefyd yn perfformio yn y theatr ac ar y radio.

Dechreuodd gyrfa actio William Vaughan pan benderfynodd adael ei swydd yn brifathro Ysgol Cilcennin yng Ngheredigion a mynd ar gwrs perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd yn 1980.

Yn enedigol o Benrhyndeudraeth, bu’n athro ym Manceinion am rai blynyddoedd gan gwrdd â’i wraig, Rhian, mewn dawns Gŵyl Ddewi yn y ddinas, a hithau wedi’i geni a’i magu ychydig i ffwrdd o Benrhyndeudraeth, yn Llanberis.

Bu’r ddau yn briod am 60 mlynedd gan fyw yn Rhiwbeina ers y 70au.

Mae’n gadael dwy ferch, Mair ag Eurwen, mab-yng-nghyfraith Rob, a dau o wyrion, Scott a Rhys.