Mae cwmni sydd y tu ôl i’r cynigion i adeiladu hyd at 30 o dyrbinau gwynt ger Corwen yn chwilio am farn y cyhoedd.

Mae RWE, cynhyrchydd trydan mwyaf Cymru, wedi dechrau ymgynghoriad anffurfiol ar gynigion i adeiladu cynllun ynni adnewyddadwy ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Gwynedd.

Pe bai Fferm Wynt Gaerwen – fyddai’n cael ei lleoli i’r gogledd o bentrefi Llandderfel a Llandrillo – yn cael ei chymeradwyo, byddai’n cynhyrchu 62MW o drydan, gyda’r tyrbinau uchaf yn 180m.

Mae cynlluniau hefyd i greu cronfa buddsoddi cymunedol, a bydd RWE yn cydweithio â Buddsoddi Cymunedol Cymru i ystyried elfen o berchnogaeth leol neu gydberchnogaeth ar gyfer y datblygiad.

Yn ogystal, maen nhw’n ystyried y potensial ar gyfer ynni solar a storio batri ar y safle.

‘Potensial da’

Mae yna “botensial da” ar y safle ar gyfer ynni adnewyddadwy, a fyddai’n “helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn sicrhau cyflenwadau trydan”, yn ôl Rheolwr Prosiect RWE.

“Mae fferm wynt arfaethedig Gaerwen ar gam cynnar i fod yn brosiect swyddogol, a’n bwriad ni yn yr ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol hwn yw rhannu gwybodaeth â grwpiau sydd â diddordeb, rhoi’r cyfle i bobl leol siarad â’r tîm, a gofyn am adborth ar agweddau amgylcheddol a gweledol,” meddai Arfon Edwards, sy’n arwain y gwaith datblygu.

“Er bod gennym lawer iawn o brofiad o sefydlu pecynnau budd cymunedol, mae gan bob ardal ei hanghenion unigryw, felly rydyn ni eisiau clywed beth fyddai pobl yn ei hoffi yn hyn o beth hefyd.”

Ymgynghoriad anffurfiol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd, rhwng Tachwedd 15 a Rhagfyr 6, gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghorwen, Llandrillo a Llandderfel, a chyfle i bobol leol gyflwyno ymatebion dros e-bost neu drwy’r post.

Er bod RWE wedi cynnal gwaith arolygu ar y safle’n barod, mae nifer o gamau ar ôl.

Dros y misoedd nesaf byddan nhw’n parhau i siarad â chymunedau lleol, gan ddrafftio Asesiad Effaith Amgylcheddol ffurfiol, cyn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol yn haf 2023.