Mae cefnogwyr Cymru wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion na fydd y capten Gareth Bale yn gwisgo’r band ‘OneLove’ am ei fraich yn ystod Cwpan y Byd.

Yn hytrach, byddan nhw’n gwisgo band “Dim Gwahaniaethu”.

Cafodd pob tîm rybudd gan FIFA y byddai unrhyw gapten sy’n gwisgo’r band yn cael cerdyn melyn yn syth ar ôl y gic gyntaf pe baen nhw’n gwrthod cadw at y rheol.

Roedd nifer o gapteniaid a gwledydd wedi ymrwymo i ddangos solidariaeth drwy wisgo’r band.

Y gwleidyddion yn ymateb

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar Twitter: “Rhaid i FIFA wrthdroi ei benderfyniad niweidiol, diraddiol.

“Mae @cymru wedi gweithio’n galed i wneud y gêm yn ddiogel + cynhwysol.

“Rhaid cario’r neges honno o gariad + cynwysoldeb i mewn i’r 🌎 heb ofn na chasineb.

“Rhaid i FIFA amddiffyn hawliau pobol LHDT+ dim ots lle mae’r gêm yn cael ei chynnal. #uncariad”

 

Dywed Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ogledd Cymru ei fod yn “mawr obeithio y bydd yr holl ffederasiynau cenedlaethol yn dod at ei gilydd ar ôl Cwpan y Byd i glirio arweinyddiaeth FIFA”.

“Naill ai hynny neu ystyried o ddifrif gadael FIFA.

“Mae’r twrnament hwn yn troi’n bwynt isel iawn yn hanes pêl-droed.”

‘Dydi arian byth yn cuddio lot am hir’

Mae Yws Gwynedd, y cerddor a rheolwr y label Recordiau Côsh, wedi ymateb ar ffurf cân.

“Sut ar ddaear gafodd ffasiwn le llwyfannu cwpan rwbath mwy na te?

“Caethweision wedi marw jest er mwyn i nhw gael cadw at addewid oedd yn byth i ddod yn wir.

“I olchi’n lân y gwaed sydd ar eu tir, ond dydi arian byth yn cuddio lot am hir.”

Band braich a bathodyn Cymru

“Dydy ildio i FIFA ddim yn ddigon da”

Y Wal Enfys, cefnogwyr LHDTC+, yn ymateb i dro pedol Cymru ar wisgo bandiau yn cefnogi hawliau