Mae’r Wal Enfys, cefnogwyr LHDTC+ tîm pêl-droed Cymru, yn dweud nad yw ildio i orchymyn FIFA i beidio â gwisgo bandiau’n cefnogi eu hawliau yn “ddigon da”.

Daw hyn ar ôl i dîm Cymru wneud tro pedol ar y penderfyniad y byddai’r capten Gareth Bale yn gwisgo’r band ‘One Love’ am ei fraich yn ystod Cwpan y Byd.

Yn hytrach, byddan nhw’n gwisgo band “Dim Gwahaniaethu”.

Cafodd pob tîm rybudd gan FIFA y byddai unrhyw gapten sy’n gwisgo’r band yn cael cerdyn melyn yn syth ar ôl y gic gyntaf pe baen nhw’n gwrthod cadw at y rheol.

Roedd nifer o gapteniaid a gwledydd wedi ymrwymo i ddangos solidariaeth drwy wisgo’r band.

Ond yn y bôn, gallai hynny fod wedi golygu gwaharddiad i Gareth Bale rhag chwarae yn y gêm fawr yn erbyn Lloegr, gan fod gwaharddiad yn dod i rym am ddau gerdyn melyn yn y grwpiau.

‘Rhwystredig’

“Mae FIFA wedi bod yn glir iawn y bydd yn cyflwyno sancsiynau chwaraeon pe bai ein capteniaid yn gwisgo’r bandiau am eu breichiau ar y cae chwarae,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad ar y cyd.

“Fel ffederasiynau cenedlaethol, allwn ni ddim rhoi ein chwaraewyr mewn sefyllfa lle gallen nhw wynebu sancsiynau chwaraeon gan gynnwys cerdyn melyn, felly rydym wedi gofyn i’n capteniaid beidio â cheisio gwisgo’r bandiau am eu breichiau yng ngemau Cwpan y Byd FIFA.

“Roedden ni’n barod i dalu dirwyon fyddai fel arfer yn berthnasol i dorri rheolau cit, ac roeddem wedi ymrwymo’n gryf i wisgo’r band braich.

“Fodd bynnag, allwn ni ddim rhoi ein chwaraewyr mewn sefyllfa lle gallen nhw weld cerdyn melyn neu hyd yn oed yn cael eu gorfodi i adael y cae chwarae.

“Rydym yn rhwystredig iawn gan benderfyniad FIFA yr ydym yn credu ei fod yn ddi-gynsail – fe wnaethon ni ysgrifennu at FIFA ym mis Medi yn rhoi gwybod iddyn nhw am ein dymuniad i wisgo’r band braich ‘One Love’ i gefnogi cynhwysiant yn y byd pêl-droed mewn modd gweithredol, ond chawson ni ddim ymateb.

“Mae ein chwaraewyr a’n hyfforddwyr wedi’u siomi – maen nhw’n gefnogwyr cryf o gynhwysiant a byddan nhw’n dangos cefnogaeth mewn ffyrdd eraill.”

‘Wedi’n bradychu’

“Sori, dydy ildio i @FIFAcom ddim yn ddigon da,” meddai’r Wal Enfys ar Twitter.

Yn ôl yr FSA, cymdeithas cefnogwyr Cymru a Lloegr ar y cyd, bydd y penderfyniad yn gwneud i gefnogwyr “deimlo’n grac”.

“Heddiw, rydym yn teimlo wedi’n bradychu,” meddai’r mudiad, gan aralleirio araith ddadleuol Gianni Infantino, Llywydd FIFA, wrth iddo ddatgan bod y gystadleuaeth fyd-eang yn croesawu pawb.

“Heddiw rydym yn teimlo dirmyg tuag at sefydliad sydd wedi dangos ei werthoedd go iawn drwy roi’r cerdyn melyn i chwaraewyr a’r cerdyn coch i oddefgarwch.”

Maen nhw hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad i roi Cwpan y Byd i Qatar “ar sail arian ac isadeiledd”, gan ddweud na ddylai hynny fyth digwydd eto.

“Ni ddylai unrhyw wlad sy’n disgyn o ran hawliau LHDTC+, hawliau menywod, hawliau gweithwyr neu unrhyw hawliau dynol byd-eang eraill, gael yr anrhydedd o gynnal Cwpan y Byd.”

Maen nhw’n dweud bod datganiad FIFA yn “syfrdanol”.

‘Ymyrraeth’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i “ymyrraeth” FIFA yn y mater.

“Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ymhlith eraill, ysgrifennu at FIFA ym mis Medi yn eu rhybuddio nhw am benderfyniad chwaraewyr i wisgo’r band breichiau OneLove, ond heb gael ymateb,” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y blaid.

“Mae’r newid penderfyniad sydyn yma’n arwydd clir o ymyrraeth uniongyrchol gan FIFA o ganlyniad i bryderon awdurdodau Qatar.

“Rydym yn cefnogi penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio â gorchymyn Gareth Bale i wisgo’r band braich, gan y byddai ei orfodi i wynebu cael cerdyn melyn yn annheg i’r tîm ac iddo fe.

“Mae’r penderfyniad anodd hwn, mewn gwirionedd, wedi tynnu sylw at y mater, gan ddod ag e’n flaenllaw yn y sylw i Gwpan y Byd, yn fwy fyth efallai nag y gallai gwisgo’r band braich fod wedi’i wneud.”

‘Croeso i fod i bawb’

“Dyma Gwpan y Byd lle mae croeso i fod i bawb – oni bai, wrth gwrs, eich bod chi’n LDHT+ neu’n cyd-sefyll gyda phobl LDHT+,” meddai Adam price, arweinydd Plaid Cymru.

“Mae penderfyniad FIFA i gosbi chwaraewyr am wisgo band One Love yn atgas ac yn greulon.

“Rhaid iddyn nhw wrthdroi eu penderfyniad niweidiol ar unwaith.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithio’n galed i wneud y gêm yn ddiogel ac yn gynhwysol.

“Rhaid cario’r neges honno o gariad a chynwysoldeb i’r byd heb ofn na chasineb.

“Rhaid i FIFA amddiffyn hawliau pobol LHDT+ waeth ble mae’r gêm yn cael ei chynnal.

“Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â’r gymuned LHDT+ fyd-eang yn erbyn rhagfarn, anoddefgarwch a gwahaniaethu.”

‘Symbol o agwedd FIFA ar y cyfan’

“Mae’r penderfyniad hwn yn symbolaidd o agwedd FIFA ar y cyfan ynghylch y twrnament hwn na ddylai fyth fod wedi cael ei roi i Qatar yn y lle cyntaf,” meddai Jane Dodds.

“Mae chwaraeon i fod i bawb, ond eto dydy LHDTC+ yn amlwg ddim wedi cael croeso ers y diwrnod cyntaf.

“Mae’r penderfyniad hwn hefyd yn codi rhagor o gwestiynau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru a Mark Drakeford i fynd i’r twrnament, fel dw i wedi dweud o’r blaen, dydy sgyrsiau tu ôl i ddrysau caëedig ddim yn ddigon, yn enwedig os yw Qatar yn sensro unrhyw arwyddion cyhoeddus o solidariaeth.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bob amser yn sefyll i fyny dros y gymuned LHDTC+, ynghyd â menywod a gweithwyr o dramor sydd hefyd wedi cael eu hawliau wedi’u taweliu yn y twrnament hwn.”