Ar drothwy gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd, mae Connor Roberts yn dweud bod y tîm eisiau i gefnogwyr ym mhedwar ban y byd deimlo balchder yn y tîm cenedlaethol.
Bydd Cymru’n herio’r Unol Daleithiau yn Qatar heno (nos Lun, Tachwedd 21), eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers i’r Pelé ifanc sgorio’r gôl fuddugol wrth i Gymru golli o 1-0 yn erbyn Brasil yn rownd yr wyth olaf ar Fehefin 19, 1958.
Byddan nhw wedyn yn herio Iran a Lloegr yn y gobaith o gymhwyso o Grŵp B ar gyfer y rowndiau olaf, ac mae Connor Roberts yn dweud ei fod e’n teimlo’r cyffro.
“Mae hi’n amser hir ers i’r wlad hon fod ar y llwyfan yma, ac mae bod yn rhan ohono fe’n gwbl anghredadwy,” meddai.
“Dw i’n teimlo’n eithriadol o lwcus a breintiedig o gael bod yma, a gobeithio ga’ i’r cyfle i gamu ar y cae hwnnw a chwarae yng Nghwpan y Byd dros fy ngwlad. Bydd hi’n arbennig.”
Er bod rhai degawdau bellach ers i Gymru fod ar y llwyfan rhyngwladol mwyaf un, mae’r cefnwr da yn dweud eu bod nhw’n hen gyfarwydd bellach â chwarae mewn twrnament rhyngwladol, yn dilyn eu llwyddiannau yn yr Ewros yn 2016 ac eto yn 2021 ar gyfer Ewro 2020.
“Dw i’n gwybod nad oedd e union yr un peth ond mae pawb jyst wedi cyffroi,” meddai.
“Mae’r balchder a’r angerdd sydd gyda ni o ran chwarae dros ein gwlad yn anghredadwy, felly bydd cael gwneud hynny ar y llwyfan mwyaf yng Nghwpan y Byd o flaen ein ffrindiau, ein teuluoedd a phawb adref yn bloeddio droson ni’n arbennig iawn.”
Y Wal Goch ac Yma O Hyd
O dan amgylchiadau gwahanol, fe fyddai’r Wal Goch wedi bod yn heidio i Gwpan y Byd yn llawn cyffro am yr hyn sydd i ddod dros yr wythnosau sydd i ddod.
Ond gyda’r gystadleuaeth yn Qatar, lle mae pryderon am hawliau dynol, dydy nifer fawr o aelodau’r grŵp cefnogwyr ddim wedi teithio i’r wlad – yn eu plith mae aelodau LHDTC+ gan fod bod yn hoyw yn drosedd yn y wlad honno.
Yn ôl Connor Roberts, bydd y tîm yn chwarae dros bawb – o’r rhai fydd yn gwylio yn y stadiwm i’r rhai ’nôl adref fydd yn gwylio ar y teledu.
“Maen nhw’n teithio dros y byd i’n cefnogi ni gan wisgo’u hetiau bwced a phe baen nhw’n gallu bod ar y cae hwnnw’n chwarae pêl-droed, bydden nhw’n marw eisiau bod ar y cae yn gwisgo crys Cymru,” meddai.
“Rydyn ni’n eu cynrychioli nhw ar y cae, a dim ond ein bod ni’n rhoi o’n gorau ac yn gwneud cystal ag y gallwn ni, gallan nhw fod yn hapus a gobeithio, ar hyd y ffordd, y gallwn ni greu atgofion da iddyn nhw – does dim llawer ohonyn nhw wedi bod, ond fe fu mwy ohonyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf.
“Eu dewis nhw yw a ydyn ni’n aros gartref neu beidio ond bydd unrhyw Gymro, lle bynnag maen nhw yn y byd – yng Nghymru, yn Qatar neu yn Timbuktu – yn ein cefnogi ni a byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i geisio’u gwneud nhw’n falch o fod yn Gymry.”
Yn y stadiwm yn Qatar neu yn y dafarn yng Nghymru, mae’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn morio canu ‘Yma O Hyd’, anthem swyddogol Cymru yng Nghwpan y Byd sydd wedi ennyn cryn sylw y tu hwnt i gylchoedd arferol y byd Cymraeg dros yr wythnosau diwethaf.
Ac mae Connor Roberts yn sicr y bydd hi’n cael ei chanu gan y chwaraewyr pe baen nhw’n dathlu buddugoliaeth yn Qatar.
“Ro’n i’n arfer ei chanu ar fy nghlustffonau pan ddes i i mewn i’r garfan gyntaf, ar y ffordd i gemau, oherwydd roedden ni’n arfer gwneud hynny yn Abertawe, ac fe ddaeth yn ddefod o ryw fath,” meddai.
“Dim ond yn ddiweddar y cafodd ei chanu fel rhan o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r garfan ond byddwn ni’n ei chario hi gyda ni i Qatar.
“Os ydyn ni’n cyflawni pethau braf, yna dw i’n siŵr y bydd hi’n cael ei chanu’n groch.
“O gael chwarae yng Nghwpan y Byd, bydda i wedi cyflawni ymhell tu hwnt i’r hyn ro’n i’n meddwl y gallwn i’n fachgen bach a phan o’n i’n ceisio dod yn bêl-droediwr proffesiynol.
“Pan fydd e ar ben, mae’n rywbeth y galla i fod yn eithriadol o falch ohonof fi fy hun.”
Mae cyrraedd Cwpan y Byd ynddo’i hun yn dipyn o gamp, ond pa mor bell mae e’n credu y gall Cymru fynd?
“Does dim disgwyliadau arnon ni. Byddwn ni’n mynd yno’n llawn gobaith,” meddai.
“Cwpan y Byd yw e, felly bydd pob gêm yn anodd ac os gallwn ni ddianc o’r grŵp rywsut, yna bydd y cyflawniad hyd yn oed yn fwy na bod yma yn y lle cyntaf.”