Mae adroddiadau bod dau o berchnogion Clwb Pêl-droed Abertawe’n paratoi i werthu eu cyfran o’r clwb.

Fe fu’r Americanwyr Jason Levien a Steve Kaplan dan bwysau ers tro, wrth i Abertawe lithro o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gan barhau i werthu eu chwaraewyr disgleiriaf bob tymor.

Mae lle i gredu y byddan nhw’n gwerthu eu cyfran o’r clwb i’r cadeirydd Andy Coleman, y buddsoddwyr newydd Brett Cravatt a Nigel Morris, a’r gŵr busnes Jason Cohen.

Prynodd Levien a Kaplan 68% o’r clwb am oddeutu £100m pan oedden nhw yn yr Uwch Gynghrair, gan gynyddu eu cyfran yn ddiweddarach i 74.95% ar y cyd â Jake Silverstein.

Mae Nigel Morris yn berchen ar 12.59%, tra bod Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe’n berchen ar 9.42%, gyda 5% wedi’i warchod.

Fe fu Andy Coleman yn gadeirydd ers mis Mai y llynedd, pan brynodd e gyfran “sylweddol” o’r clwb.

Bydd yn rhaid i’r Gynghrair Bêl-droed roi sêl bendith i’r gwerthiant, ac yn ôl Andy Coleman bydd y cytundeb yn dod ag £20m i’r clwb yn y lle cyntaf.

Yn ôl The Athletic, mae Coleman yn pwysleisio bod “rhaid symud ymlaen” o’r perchnogion diwethaf.

‘Uchelgeisiol’

Mae’r adroddiadau wedi’u croesawu gan Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda’n ffrindiau @SwansOfficial yn eu pennod gyffrous newydd,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Mae Andy a’r tîm yn frwd, yn uchelgeisiol ac yn cydweithio…

“Mae pawb ohonom @FAWales @Cymru gyda chi ar y daith.”