Mae’r asgellwr Blair Murray wedi’i gynnwys yn nhîm rygbi Cymru i herio Ffiji yng Nghaerdydd ddydd Sul (Tachwedd 10), gan ennill ei gap cyntaf.
Bydd y gêm yn fyw ar S4C.
Mae’r bachwr Dewi Lake wedi’i enwi’n gapten, gan ymuno â Gareth Thomas ac Archie Griffin yn y rheng flaen.
Adam Beard a Will Rowlands yw’r ddau glo ar ôl methu’r gemau yn erbyn Awstralia dros yr haf, tra bo’r blaenasgellwyr Taine Plumtree a Tommy Reffell a’r wythwr Aaron Wainwright wedi’u henwi yn y rheng ôl.
Y mewnwr Tomos Williams, oedd hefyd wedi methu’r daith i Awstralia, a’r maswr Gareth Anscombe, sydd heb chwarae ers Cwpan y Byd y llynedd, yw’r haneri.
Ben Thomas a Max Llewellyn fydd yn chwarae yn y canol.
Yn cadw cwmni i Murray yn llinell gefn mae’r cefnwr Cameron Winnett a’r asgellwr Mason Grady.
Y bachwr Ryan Elias, y ddau brop Nicky Smith a Keiron Assiratti, y blaenasgellwyr Christ Tshiunza, James Botham a Jac Morgan, y mewnwr Ellis Bevan a’r maswr Sam Costelow sydd ar y fainc.
‘Dewisiadau anodd’
Yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland, roedd gan y dewiswyr “ddewisiadau anodd” i’w gwneud gan fod cymaint o gystadleuaeth yn y garfan.
Ond dywed ei fod yn hapus â “chydbwysedd” y tîm ar gyfer y gêm agoriadol, sy’n debygol o fod yn gêm gorfforol.
Ychwanega y bydd yn rhaid i’r tîm ganolbwyntio am 80 munud.
Yn ymuno â’r tîm hyfforddi fel ymgynghorydd yn ystod yr hydref mae’r cyn-ddyfarnwr Nigel Owens.
Tîm Cymru
15. C Winnett (Rygbi Caerdydd), 14. M Grady (Rygbi Caerdydd), 13. M Llewellyn (Caerloyw), 12. B Thomas (Rygbi Caerdydd), 11. B Murray (Scarlets), 10. G Anscombe (Caerloyw), 9. T Williams (Caerloyw); 1. G Thomas (Gweilch), 2. D Lake (Gweilch, capten), 3. A Griffin (Caerfaddon), 4. W Rowlands (Racing 92), 5. A Beard (Gweilch), 6. T Plumtree (Scarlets), 7. T Reffell (Caerlŷr), 8. A Wainwright (Dreigiau)
Eilyddion
16. R Elias (Scarlets), 17. N Smith (Caerlŷr), 18. K Assiratti (Rygbi Caerdydd), 19. C Tshiunza (Caerwysg), 20. J Botham (Rygbi Caerdydd), 21. J Morgan (Gweilch), 22. E Bevan (Rygbi Caerdydd), 23. S Costelow (Scarlets).