Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru, wedi ymddiswyddo ar ôl tair blynedd wrth y llyw.

Enillodd Cymru bedair gwaith yn unig mewn unarddeg o gemau yn 2024, ac roedd methiannau difrifol yn y ffordd wnaeth Undeb Rygbi Cymru ymdrin â chytundebau’r chwaraewyr, medden nhw.

Dywed yr Undeb y byddan nhw’n treulio amser yn dod o hyd i’r prif hyfforddwr nesaf ar gyfer “llwyddiant tymor byr, canolig a hirdymor”, a’r disgwyl yw y bydd y prif hyfforddwr newydd yn eu lle erbyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn.

Mae’r Undeb wedi diolch i Ioan Cunningham, gan ddweud bod gêm y menywod yn parhau’n flaenoriaeth iddyn nhw.

Dywed Ioan Cunningham mai nawr yw’r “adeg iawn i rywun newydd gymryd yr awenau”.

Adolygiad

Fe wnaeth Bwrdd Undeb Rygbi Cymru gyfarfod ddechrau’r wythnos i drafod yr adolygiad diweddar o gytundebau’r chwaraewyr.

Cafodd yr adolygiad ei lansio yn dilyn llythyr gan y chwaraewyr, ac mae’r Undeb yn dweud bod ganddyn nhw “waith pellach i’w wneud”, gan gynnwys rhannu’r drafft terfynol gyda’r rheiny oedd yn rhan o’r adolygiad cyn ei gyhoeddi.