Mae Prif Weinidog Cymru wedi diolch i garfan bêl-droed Cymru am “ysbrydoli cenedl” yng Nghwpan y Byd yn Qatar, gan ddefnyddio’i daith yno i rybuddio llywydd FIFA na ddylai “balu” twll iddo’i hun yn dilyn sylwadau’n amddiffyn y penderfyniad i gynnal y twrnament yn y wlad.

Roedd Mark Drakeford yn bresennol yn sesiwn ymarfer Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 1958.

Byddan nhw’n herio’r Unol Daleithiau fory (nos Lun, Tachwedd 21), cyn chwarae yn erbyn Iran a Lloegr yng Ngrŵp B.

Yn ôl Mark Drakeford, roedd digon i gnoi cil arno yn araith Gianni Infantino.

“Fe wnes i feddwl dau beth pan glywais i’r sylwadau hynny,” meddai wrth y wasg yn Qatar.

“Yn gyntaf oll, dw i’n credu bod pwynt difrifol am fod yn barod i adolygu ein hanes ein hunain.

“Mae Cymru’n genedl allblyg, gynhwysol lle mae hawliau pobol wir yn bwysig i ni.

“Ond nid felly yr oedd hi bob amser.

“Yn ein hanes ein hunain, fe gawson ni adegau pan na fyddai’r pethau rydyn ni wedi’u gwneud, gan gynnwys y pethau rydyn ni wedi’u gwneud mewn rhannau eraill o’r byd, yn cyd-fynd â’r math o gredoau a safonau sydd gennym ni heddiw.

“Felly dydy cymryd eiliad i fyfyrio ar ein hanes ein hunain ddim yn eiliad wast.

“Yr ail beth wnes i feddwl wrth wrando ar yr hyn gafodd ei ddweud oedd fy mod i’n cael fy atgoffa o ddeddf gyntaf tyllau.

“Bydd rhai pobol yn cofio Denis Healey, y gwleidydd Llafur mawr.

“A’i reol gyntaf am dyllau oedd, os ydych chi mewn twll, stopiwch balu.”