Cafodd Kieffer Moore ei eni yn Lloegr i deulu o Lanrug, ond mae’n mynnu na fydd e’n poeni pe bai Cymru’n curo’r Saeson allan o Gwpan y Byd yn Qatar – ac mae e wedi bod yn gwylio fideos o un o sêr mwya’r byd er mwyn ei helpu i wneud hynny.

Bydd ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yn y gystadleuaeth – y tro cyntaf iddyn nhw gymhwyso ers 1958 – yn dechrau nos fory (nos Lun, Tachwedd 21) gyda gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau, gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch.

Byddan nhw wedyn yn herio Iran ddydd Iau (Tachwedd 25) ac yn gorffen gyda gêm allai fod yn dyngedfennol yn erbyn y Saeson ar Dachwedd 29.

“Fydd dim teyrngarwch cymysg,” meddai’r ymosodwr chwe throedfedd a phum modfedd, sy’n cael ei adnabod am ei gêm gorfforol, sydd wedi achosi trafferthion iddo yn y gorffennol, gan gynnwys yn yr Ewros.

“Byddai’n anhygoel” curo’r Saeson, meddai am y wlad roddodd ei gap cyntaf iddo i’r tîm ‘C’ cyn iddo droi at y gêm broffesiynol.

“Fedra i ddim cofio ryw lawer.

“Estonia oedd hi, efallai, a dw i’n meddwl ’mod i wedi dod ymlaen tua diwedd y gêm.”

Kieffer Moore yn erbyn Jordan Pickford

Pe bai Cymru’n gorfod dibynnu ar ganlyniad da yn erbyn y Saeson i gymhwyso i’r rowndiau olaf, mae Kieffer Moore, sy’n enedigol o Torquay, yn ffyddiog y gall e guro Jordan Pickford, golwr Lloegr.

Daw ei sylwadau am hynny ar ôl iddo rwydo ym muddugoliaeth Bournemouth o 2-0 dros Everton yn gynharach yn y mis.

“Mae hi’n braf cael y gorau arno fo’n barod,” meddai.

Zlatan y cawr o Sweden

Wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd – a churo Pickford yn y gôl eto – mae Kieffer Moore wedi bod yn astudio un o sêr Sweden, Zlatan Ibrahimovic.

Ond pe bai Moore yn rhwydo yn y twrnament hwn, fe fyddai’n cyflawni rhywbeth na chyflawnodd Ibrahimovic erioed, er ei fod e wedi sgorio yn yr Ewros.

Ac fe fydd yn gobeithio manteisio ar yr un math o gêm gorfforol â’i arwr, er ei fod yn cyfaddef nad yw pobol ar y cyfan yn gefnogol i’r dull hwnnw o chwarae’r gêm.

“Ochr yn ochr â’r elfen gorfforol, ychydig iawn o bobol y dewch chi ar eu traws nhw sy’n hoffi ochr yna’r gêm,” meddai.

“Mae’n dipyn o beth prin rŵan, ac yn rhywbeth fedrwch chi dynnu arno fo.

“Fedrwch chi ddominyddu’r person rydach chi yn eu herbyn nhw mewn ffordd gorfforol ac ymosodol, dw i’n hoffi pwyso yn erbyn rhywbeth lle cewch chi fantais.

“Un chwaraewr sy’n dod i feddwl ydy Zlatan.

“Fedrwch chi weld ei rym corfforol, y ffordd mae o’n dal ei hun, ei gymeriad a’r ffordd mae o’n chwarae pêl-droed.

“Dw i wedi gwylio fideos di-ri o bron bob ymosodwr sy’n werth ei wylio.

“Dw i’n hoffi dadansoddi llawer o bobol eraill i weld a fedr hynny fy helpu, a dw i’n teimlo ’mod i wedi dysgu llawer o bethau o’r fideos hynny.”

Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid iddo ddefnyddio’i freichiau – rhywbeth arweiniodd at gael ei wahardd yn yr Ewros ar ôl gweld cerdyn melyn.

Y tro hwn, mae ei reolwr Rob Page yn ei annog i fod yn ofalus.

“Dw i wedi gwneud ymdrech wirioneddol i weithio o amgylch hynny dros y flwyddyn ddwytha’,” meddai.

“Mor dwp ag y mae o’n swnio, dydy hi ddim fatha neidio heb eich breichiau, ond rydach chi’n ceisio angori’ch hun yn y ffordd yna a gwneud pethau gwahanol i gael yr un effaith o hyd.”

Ers addasu ei gêm, dydy Kieffer Moore heb weld cerdyn melyn i’w glwb ers mis Medi y llynedd, ond mae e wedi gweld cerdyn melyn mewn pedair allan o’i saith gêm ddiwethaf dros y wlad.

Ar lefel Ewropeaidd mae hynny, ond mae Cymru hefyd yn ymwybodol y gallai dyfarnwyr o bedwar ban byd fod yn fwy llym, ac fe fydd yn rhaid i’r ymosodwr fod yn ofalus wrth i’w wlad geisio aros yn y gystadleuaeth cyhyd â phosib.