Sgoriodd Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, un o goliau mwya’i yrfa i gipio pwynt i Gymru yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 1958.

Gorffennodd eu gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau yng Ngrŵp B yn gyfartal 1-1 yn Qatar.

Aeth yr Americanwyr ar y blaen ar ôl 31 munud, diolch i Tim Weah yn ystod hanner cyntaf pan gafodd ei dîm ddau draean o’r meddiant.

Yr Unol Daleithiau’n dathlu gôl Tim Weah yn erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd

 

Prin oedd y cyfleoedd gafodd yr Unol Daleithiau o flaen y gôl, serch hynny, gydag arbediad mwya’r hanner yn dod oddi ar beniad gan yr amddiffynnwr canol Joe Rodon tuag at ei gôl ei hun.

Doedd Cymru’n methu ymdopi â’r pwysau yn y pen draw, ac fe wnaeth rhediad yr Americanwyr greu’r cyfle iddyn nhw fynd ar y blaen.

Ond brwydrodd Cymru’n galed ar ôl i Kieffer Moore ddod i’r cae yn lle Dan James.

Er ei fod e wedi bod yn dawel yn ystod y gêm, deled yr awr, deled y dyn oedd hi, ac fe rwydodd Gareth Bale i sicrhau dwy gêm enfawr yn erbyn Iran a Lloegr.

Gareth Bale yn dathlu wedi iddo rwydo o’r smotyn i sicrhau gornest gyfartal

Gêm o ddau hanner

“Roedden ni’n ofnadwy yn yr hanner cyntaf,” meddai Gareth Bale.

“Ond dyna ni, roedd rhaid i ni wneud ambell newid hanner amser ac ambell newid tactegol, ac roedden ni’n wych yn yr ail hanner.

“Chwaraeon ni’r bêl, roedden ni’n ddewr, roedden ni’n hyderus.

“Dangoson ni ein gwir gymeriad eto ac ro’n i’n teimlo fwy na thebyg y dylen ni fod wedi ennill yn yr ail hanner, a bod yn onest.”

Dywed ei fod yn “deimlad anhygoel, anghredadwy” i sgorio’i gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd.

“Ond byddai’n well o lawer gen i pe baen ni wedi cael y triphwynt, a bod yn onest,” meddai.

“Roedd e’n berfformiad tîm gwych, yn enwedig yn yr ail hanner, a dangoson ni wir benderfyniad i ddod yn ôl i mewn i’r gêm o le’r oedden ni.

“Rydyn ni’n falch o hynny, mae pethau gyda ni i adeiladu arnyn nhw, a phethau i weithio arnyn nhw.

“Mater o adfer yw hi nawr, a pharatoi ar gyfer y gêm nesaf.”