Ar ddiwrnod cyntaf Wythnos yr Hinsawdd yng Nghymru heddiw (dydd Llun, Tachwedd 21), mae mudiadau Cristnogol wedi dod ynghyd i ystyried ymateb eglwysi’r wlad i newid hinsawdd.
Mae gweithgareddau’r eglwysi yn cynnwys prosiectau ymarferol fel ailgylchu, casglu sbwriel a gefeillio toiledau.
Y gobaith, medd un o’r trefnwyr, ydy ysbrydoli rhagor o bobol i weithredu mewn ffyrdd tebyg drwy rannu profiadau.
Fel rhan o banel dan ofal A Rocha UK a Chymorth Cristnogol, mae eglwysi o wahanol enwadau yn dod at ei gilydd ar-lein brynhawn heddiw.
Mae’r gynhadledd yn canolbwyntio ar yr heriau o fynd i’r afael â bygythiad newid hinsawdd ochr yn ochr â’r argyfwng costau byw.
“Mae cymaint o weithgarwch ar draws Cymru gan eglwysi sy’n gweithredu ynghylch yr hinsawdd ac argyfyngau byd natur fel fy mod i’n teimlo bod hwn yn gyfle gwych i roi gwybod i bobol am hynny a helpu i ysbrydoli rhagor o bobl i wneud pethau tebyg,” meddai Delyth Higgins, Swyddog Eco Church A Rocha UK yng Nghymru.
“Mae ein cynllun dyfarniadau Eco Church yn cynnig modd i eglwysi o bob enwad adlewyrchu’r hyn maen nhw eisoes yn ei wneud, a beth arall gallan nhw wneud fel cymuned eglwys ar y mater hanfodol hwn.”
Sefyllfa Zimbabwe
Yn ogystal â chyfraniadau gan gynrychiolwyr eglwysi, mae’r digwyddiad yn cynnwys sgwrs gan Lindiwe Ndebele, Swyddog Prosiectau Brys Cymorth Cristnogol yn Zimbabwe, ynghylch sut mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar gymunedau yno.
“Rydyn ni’n gobeithio rhannu ciplun o’r gweithredu gan eglwysi i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd yng Nghymru, sy’n digwydd ochr yn ochr ag ymgyrchu a chefnogaeth i gymunedau ar draws y byd y mae argyfwng yr hinsawdd yn effeithio’n anghymesur arnynt, gan wneud gwahaniaeth aruthrol,” meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol.
“Gyda chefnogaeth Cynllun Grantiau Cymru ac Affrica, mae Cymru’n cyflawni rôl bwysig yn cryfhau gwydnwch 10,500 o fenywod sy’n ffermwyr yn Rhanbarth Hwange yn Zimbabwe, wrth iddyn nhw wynebu heriau argyfwng yr hinsawdd.
“Mae’r prosiect cyffrous yn cynnwys cynyddu mynediad at gyfleoedd bywoliaeth gynaliadwy trwy ddulliau ffermio cydnerth o ran yr hinsawdd, rheolaeth well ar adnoddau naturiol ac ailsefydlu amgylcheddol, gan blannu 20,000 o goed newydd a darparu ynni adnewyddadwy glân i 1,000 o aelwydydd.”