Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lladd ar benderfyniad Cyngor Caerfyrddin i beidio chwifio fflag Jac yr Undeb.
Dyma’r math o “genedlaetholdeb pitw” sy’n “ein gwahanu”, yn ôl y blaid.
Cafodd y fflag ei chodi wedi marwolaeth Brenhines Elizabeth II ddechrau fis Medi, ynghyd â’r Ddraig Goch, a fflagiau Caerfyrddin a Wcráin.
Ers hynny, mae’r faner Brydeinig wedi cael ei thynnu lawr ac mae un o’r pedwar polyn tu allan i adeilad y Cyngor yn wag.
“Dylen ni fod yn anelu tuag at weithredoedd a symbolau sy’n ein huno, nid ein gwahanu ni,” meddai Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig.
“O ystyried bod yna bolyn gwag mewn lle delfrydol yn y dref, dylai cynghorwyr Caerfyrddin chwifio fflag yr Undeb yna gyda balchder a dathlu ein partneriaeth fel cenhedloedd.
‘Angen adolygu’r protocol’
“Mae’n eironig eu bod nhw’n gwrthod chwifio fflag yr Undeb, ond eu bod nhw’n fodlon chwifio fflag Wcráin, cenedl
Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar y 9fed o Fawrth 2022, datganwyd ‘rydym yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin, a bydd baner y wlad yn chwifio ochr yn ochr â baner ein sir a baner Cymru fel arwydd o’r undod hwnnw’.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i bobl Wcráin o ran eu brwydr yn erbyn lluoedd Rwsia, ac fel sir rydym wedi croesawu’r rheiny sy’n ffoi o’r gwrthdaro.
“Mae tri pholyn baner y tu allan i Neuadd y Dref yn Llanelli a Neuadd y Dref yn Rhydaman sy’n chwifio Baneri’r Sir, Cymru ac Wcráin.
“Er mwyn sicrhau cysondeb ar draws pob safle, mae’r baneri y tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin yn gyffredinol yn adlewyrchu’r arddangosfa tu allan i Neuaddau’r Dref yn Llanelli a Rhydaman.
“Cyhoeddwyd a chytunwyd ar Brotocol Baneri a Goleuo presennol Cyngor Sir Caerfyrddin gan y Cabinet ym mis Medi 2020.
“Mae’r protocol yn nodi’r dyddiau dynodedig pan fydd baner yr undeb yn cael ei chwifio.
“Mae Adran dros Dechnoleg Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annog awdurdodau lleol i chwifio Baner yr Undeb ar y dyddiau hyn, gan gynnwys ar benblwyddi uwch-aelodau o’r teulu Brenhinol ac ar achlysuron eraill o’r fath. Gwneir hyn ar draws ein tri safle – Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.
“Fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II, gofynnais i Faner yr Undeb gael ei chwifio ar y pedwerydd polyn baner yng Nghaerfyrddin am gyfnod estynedig, rhwng diwedd y cyfnod o alaru a phen-blwydd Ei Fawrhydi Brenin Charles III ar y 14eg o Dachwedd, ac yn dilyn hynny byddai’r cysondeb o ran y baneri yn Llanelli a Rhydaman yn dychwelyd.
“Yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II, mae angen adolygu ein protocol baneri a goleuo a fydd yn cael ei wneud maes o law.”