Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a oes ganddyn nhw hyder yng Nghomisiynydd Heddlu Gwent i gynnal ymchwiliad i honiadau yn erbyn y llu sydd wedi cael eu datgelu gan y Sunday Times.
Yn ôl erthygl yn y papur newydd Prydeinig, mae diwylliant o hiliaeth, gwreig-gasineb, homoffobia a llygredd o fewn y llu.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd, cafodd Lesley Griffiths – fu’n cynrychioli Mark Drakeford, sydd wedi teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd – ei holi gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Gofynnodd a oes gan y Llywodraeth hyder yn Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu Gwent, i fynd i’r afael â phryderon difrifol am y sefyllfa.
Mae dydd Gwener (Tachwedd 25) yn Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, ac fe fydd yr ymgyrch yn rhedeg tan Ddiwrnod Hawliau Dynol ar Ragfyr 10.
Cefndir
Yn 2020, fe wnaeth Ricky Jones, cyn-blismon gyda Heddlu Gwent, ladd ei hun ger Pont Tywysog Cymru dair blynedd ar ôl ymddeol.
Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i’r gwaith gyda’r llu ar y diwrnod hwnnw, ond mae ei wraig ei ferch wedi dweud ers hynny ei fod e’n eu rheoli nhw a’i fod yn eu camdrin, ac nad oes ganddyn nhw hyder bellach yn yr heddlu.
Fe ddaeth i’r amlwg yn gynharach y mis hwn fod yna negeseuon rhwng Ricky Jones a phlismyn a chyn-blismyn oedd yn destun ymchwiliad.
Gofynnodd Heddlu Gwent i Heddlu Wiltshire gynnal yr ymchwiliad, ond mae merch Ricky Jones o’r farn mai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ac nid llu arall, ddylai fod yn cynnal yr ymchwiliad.
Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio tri achos penodol at y Swyddfa, ac maen nhw’n dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o’r honiadau pan gafodd ei ailgyflogi ganddyn nhw.
‘Dim hyder yn rheolwyr uwch Heddlu Gwent’
“Fel y teulu druan ddioddefodd dan law Ricky Jones, does gen innau ddim hyder yn rheolwyr uwch Heddlu Gwent, ac mae’n warthus fod y fath ddiwylliant ffiaidd wedi gallu tyfu ar chwâl ymhlith gwasanaeth cyhoeddus Cymreig oedd yn uchel ei barch cyn hynny,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae 33 o fenywod yr wythnos yn wynebu trais neu ofn am eu bywydau neu anafiadau, ond eto fe wnaeth Heddlu Gwent feithrin yr amgylchfyd peryglus hwn o dan arweiniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd fel pe bai’n cysgu wrth y llyw.
“Dw i’n eithaf siomedig fod y gweinidog wedi methu â chadarnhau neu beidio a yw’r Llywodraeth Lafur yn credu y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus cenedlaethol – does bosib nad yw hwn yn fater y gall rhywun fod yn niwtral yn ei gylch.
“Yr hyn sydd ei angen ar bobol yn ne-ddwyrain Cymru yw ymddiriedaeth yn eu heddlu ac arweinyddiaeth y rhai sydd wedi’u hethol i swyddi dylanwadol i fynd i’r afael â’r sefyllfa er mwyn canfod dileu actorion gwael o wasanaeth cyhoeddus mewn ffordd ddidrugaredd, a bod yn dryloyw wrth gyflwyno newid positif.”
Wrth ymateb, dywedodd Lesley Griffiths mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad gan fod plismona’n fater sydd heb ei ddatganoli i Gymru.