Mae’r Senedd wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, i atal cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon.

Cafodd cynnig Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, ei wrthod o 35 o bleidleisiau i 15.

Fe gyflwynodd y cynnig gan ddweud bod “ychydig iawn o symud” wedi bod ar y drafodaeth.

‘Torri cyfraith ryngwladol yn ddybryd’

Ar drothwy’r bleidlais, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydden nhw’n pleidleisio dros atal Cydsyniad Deddfwriaethol.

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y blaid, nid yn unig y byddai cynnig Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i weithredu’n groes i’r Protocol yn “torri cyfraith ryngwladol yn ddybryd” ond mae perygl y gallai arwain at ryfel masnach.

“Ni fyddai unrhyw lywodraeth gyfrifol yn ystyried cymryd y fath gamau – ac ar adeg pan ddylen ni fod yn cydweithio â’n cynghreiriaid Ewropeaidd yn wyneb bygythiadau Rwsia, byddai’n cynnau tân stormus diplomyddol.

“Byddai cynlluniau’r Ceidwadwyr yn troi argyfwng costau byw’n hunllef llwyr – ar adeg pan fo dirfawr angen cefnogaeth ar deuluoedd ar hyd a lled y wlad.

“Byddai rhyfel masnach yn drychineb llwyr i ffermwyr Cymru, sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd o ran costau cynyddol a thâp coch ychwanegol ochr yn ochr â theuluoedd cyffredin sydd eisoes yn wynebu pwysau chwyddiant ychwanegol o ganlyniad i gytundeb Brexit anniben y Ceidwadwyr.

“Yn hytrach na thaflu’r economi i ragor o helbul eto fyth dros Brotocol Gogledd Iwerddon, dylai’r Ceidwadwyr ganolbwyntio ar ddarparu’r gefnogaeth hanfodol i deuluoedd sydd ar goll ar hyn o bryd.

“Y ffordd hawsaf i densiynau gael eu datrys fyddai i’r Deyrnas Unedig gyfan ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb dollau fel y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw amdano.”

Wrth ddadlau yn erbyn rhoi cydsyniad, ychwanegodd Heledd Fychan o Blaid Cymru y byddai rhoi caniatâd yn “tanseilio” ac yn “dangos diffyg parch” i ddatganoli, fod y Mesur “wedi gwaethygu tensiynau ar ynys Iwerddon”, a bod yn rhaid ystyried y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon “o safbwynt masnach a diwylliant”.

Egluro’r cynnig

Wrth siarad Cymraeg wrth gyflwyno’r cynnig, dywedodd Mick Antoniw ei fod yn “cyflwyno’r cynnig fel bod y Senedd yn gallu ystyried y materion am y Bil a phenderfynu am gydsyniad”.

“Bydd yr Aelodau yn gweld ein bod ni, yn y Memorandwm, yn dweud bod rhesymau dros beidio â rhoi cydsyniad, rhesymau da o ran y gyfraith a’r Cyfansoddiad.

“Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld bod Llywodraeth Cymru’n credu bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil. Mae hyn yn wir am y Bil i gyd, heblaw am Gymal 1.

“Dw i’n gweld bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cytuno ar y cyfan, ond gadewch i ni edrych yn gyntaf ar amcanion polisi honedig y Bil a’r cyd-destun.

“Prif nod y Protocol oedd atal ffin galed ar ynys Iwerddon. Dyna’r nod o hyd.

“Roedden nhw’n dweud bod y Protocol yn ateb newydd, pragmatig ac effeithiol i’r broblem gymhleth.

“Cafodd y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, glod mawr amdano.

“Mae’r Protocol yn gwneud trefniadau penodol ar gyfer Gogledd Iwerddon i ddiogelu Cytundeb Belfast, Dydd Gwener y Groglith.

“Mae’n gwneud yn siŵr bod busnesau Gogledd Iwerddon yn dal i gael mynediad hawdd i farchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae hefyd yn diogelu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd ac eto, yn rhyfeddol, llai na phum mis ar ôl cytuno i’r Protocol a’i wneud yn gyfraith ryngwladol fel rhan o Gytundeb Ymadael y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn creu rhwystrau sydd ddim yn dderbyniol o fewn Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.”