Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud y byddan nhw’n trafod yr helynt fuodd wrth i hetiau bwced enfys gael eu cymryd oddi wrth gefnogwyr cyn y gêm agoriadol Cwpan y Byd FIFA yn erbyn yr Unol Daleithiau neithiwr (nos Lun, Tachwedd 21).

Fe wnaeth y Wal Enfys (Rainbow Wall), grŵp o gefnogwyr LHDTC+, drydar yn dweud bod yr awdurdodau wedi bod yn meddiannu hetiau enfys yn y stadiwm yn Qatar.

Dywedodd Laura McAllister, cyn-gapten Cymru ac Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, fod yr awdurdodau wedi cymryd ei het enfys oddi arni.

Yn ôl datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, mae aelodau o’u staff ymhlith y rhai gafodd eu gorchymyn i dynnu’r hetiau sy’n symbol o hawliau LHDTC+.

“Ddydd Llun, dychwelodd Cymru i Gwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, eiliad hanesyddol i’r garfan, y cefnogwyr gwerthfawr – y Wal Goch – a’r genedl,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Fodd bynnag, cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) eu siomi’n fawr gan adroddiadau bod cefnogwyr, gan gynnwys aelodau o staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi cael cais i dynnu a thaflu eu hetiau bwced Wal Enfys wrth ddod i mewn i Stadiwm Ahmad Bin Ali.

“Cafodd yr hetiau bwced hyn eu creu mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi casglu gwybodaeth am y digwyddiadau honedig hyn, a byddwn yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol gyda FIFA heddiw (22 Tachwedd).

“Ni fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhyddhau unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”

‘Gandryll’

Dywed Laura McAllister ei bod yn “gandryll” ynghylch y sefyllfa, ond dywedodd wrth ITV ei bod yn bwysig “cadw at ein gwerthoedd”.

“Rwy’n credu ein bod ni wedi cael digon o rybudd nad oedd hyn yn mynd i fod yn Gwpan y Byd lle’r oedd hawliau dynol a hawliau LHDTC+ a hawliau merched yn cael eu parchu’n dda, mewn gwirionedd,” meddai.

“Ond gan fy mod yn dod o genedl fel Cymru, roedden ni’n awyddus iawn ein bod ni’n dal i wneud safiad.”