Rhag ofn bod angen eich atgoffa, roedd tîm pêl-droed Cymru’n chwarae yng Nghwpan y Byd neithiwr (nos Lun, Tachwedd 22) – a hynny am y tro cyntaf ers 1958.

Yn rhan annatod o awyrgylch gemau Cymru ers tro, fe fu’r band pres poblogaidd y Barry Horns yn chwarae yng ngwesty’r InterContinental yn Doha cyn mynd draw am Stadiwm Ahmad Bin Ali yn Al Rayyan ar gyfer y gêm fawr yn erbyn yr Unol Daleithiau – ddyddiau’n unig ar ôl i’r band fod yn perfformio yn ystod y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ffarwelio â’r garfan cyn iddyn nhw hedfan i Qatar.

Fel rhan o eitem arbennig i golwg360, Tomos Williams o’r Barry Horns a’r band jazz Burum, aeth â ni draw i’r parti…

 


 

Mae’r Barry Horns wedi hen arfer â chwarae Yma O Hyd, anthem swyddogol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, ac fe gawson nhw gyfarfod â’r dyn ei hun, Dafydd Iwan allan yn Qatar…

Dafydd Iwan a'r Barry Horns
Dafydd Iwan a’r Barry Horns (Llun: Tomos Williams)

 

Cyn yr ornest fawr, roedd cyfle i gefnogwyr Cymru a’r Unol Daleithiau gymysgu â’i gilydd… roedd Captain America yn sicr yn barod amdani…

 

Cymru ac America yn uno oddi ar y cae
Cymru ac America yn uno oddi ar y cae (Llun: Tomos Williams)

 

A fyddai’r ddau yma – Tomos Williams a Gareth Evans, sy’n aelodau o’r Barry Horns – yn gwenu ar ddiwedd y gêm, tybed…?

 

Tomos Williams a Gareth Evans o'r Barry Horns yn y stadiwm yn Qatar
Tomos Williams a Gareth Evans o’r Barry Horns yn y stadiwm yn Qatar ar gyfer gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958 (Llun: Tomos Williams)

 

Roedd y cefnogwyr hyn o India yn sicr yn gwenu yng nghanol y Wal Goch…

 

Dau o gefnogwyr Cymru o India yn y stadiwm
Dau gefnogwr o India’n cefnogi Cymru wrth eistedd gyda Tomos Williams (Llun: Tomos Williams)

Parti ar ôl cipio pwynt

Ar ôl i Gymru ennill eu pwynt cyntaf yng Nghwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd, roedd hi’n hen bryd i’r parti ddechrau – a phwy gwell na’r Barry Horns i’w arwain…

 

 

Cafodd sawl chwaraewr Cymru gêm i’w chofio, gan gynnwys y sgoriwr a’r capten Gareth Bale. Roedd cryn ganmoliaeth hefyd i Neco Williams o dan amgylchiadau personol anodd ar ôl colli ei daid 24 awr cyn y gêm.

Ond does dim amheuaeth pwy yw arwr y criw yma…