Mae Ffederasiwn Bêl-droed yr Almaen yn cynnal ymchwiliad i ganfod a oedd rhybudd gafodd Cymru a chwe gwlad arall yng Nghwpan y Byd am beidio gwisgo bandiau braich yn gyfreithlon.

Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru rybudd na ddylai’r capten Gareth Bale wisgo’r band braich ‘One Love’ sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, ac y gallai gael ei wahardd pe bai’n gwneud hynny.

Fe wnaeth y gwledydd dro pedol yn dilyn y rhybudd gan FIFA, ac mae’r Almaen yn cyhuddo’r corff llywodraethu o “fygythiadau enfawr o sancsiynau chwaraeon heb eu hamlinellu nhw”, ac o “flacmêl”.

Ynghyd â Chymru a’r Almaen, cafodd Lloegr, Gwlad Belg, Denmarc, yr Iseldiroedd a’r Swistir yr un rhybudd, ac fe wnaeth Ffrainc benderfynu peidio gwisgo’r band ar ôl i’r capten Hugo Lloris ddweud ei fod e eisiau “parchu” Qatar.

Mae ffederasiwn yr Almaen wedi cysylltu â llys chwaraeon yn y gobaith y bydd modd i’w capten Manuel Neuer wisgo’r band am weddill y twrnament yn Qatar.

Yn hytrach na’r bandiau, mae FIFA wedi sefydlu ymgyrch ‘Dim Gwahaniaethu’ oedd i fod i gael ei gyflwyno ar gyfer rownd yr wyth olaf yn wreiddiol, a bydd modd i gapteniaid pob gwlad wisgo’r bandiau hynny yn lle’r bandiau sydd o blaid hawliau LHDTC+.

Mae perthnasau o’r un rhyw yn anghyfreithlon yn Qatar, gan eu bod nhw’n anfoesol yn ôl cyfraith Sharia yn y wlad.