Hyd yn hyn, mae taith Ffred Ffransis i wylio Cymru yn chwarae yn Qatar wedi bod yn un ddigon trafferthus. Penderfynodd y teulu aros yn Dubai a theithio i Qatar ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau ac Iran, gan fod hynny’n rhatach na phrynu pecyn i aros yn y wlad. Ond aeth pethau o chwith wrth drio gadael Qatar ar ôl gêm gyfartal Cymru yn erbyn yr UDA nos Lun (Tachwedd 21), a chafodd ei atal rhag mynd ar yr awyren i Dubai gan ei fod chwe munud yn hwyr yn cyrraedd yn dilyn trafferthion wrth adael y stadiwm i gyrraedd y metro. Dyma’i brofiadau hyd yn hyn, a’i argraffiadau…


Fore Llun, newid fymryn o arian ym maes awyr Dubai i Qatari Riyals am y dydd. Wrth roi pasbort i Bureau de Change, dywedwyd fod y cyfrifiadur yn rhybuddio fy mod i’n politically exposed person a byddai angen llenwi ffurflenni. Gadewais i y newid arian a gwnaeth criw ohonom ddangos baner ‘Nid yw Cymru ar Werth’ wrth yr awyren yn cludo cefnogwyr Cymru.

Wedi cyrraedd Qatar, diflannodd tocyn electronig Meinir, fy ngwraig, ar gyfer y gêm o’i ffôn. Aethon ni at y Swyddfa Docynnau yng nghanol Doha, a sefyll mewn rhes efo cannoedd o ddeiliaid tocynnau a gafodd yr un broblem.

Cawsom ni docyn wedi ei argraffu yn lle un electronig, a draw at y stadiwm heibio dathliad cefnogwyr lle dangoswyd eto y faner! Cymerwyd y faner i ffwrdd oddi wrthym tan ddiwedd y gêm. Ar y diwedd, fe arhosom ni i gael y faner yn ôl.

Baner Nid yw Cymru ar Werth yn Doha

Wedyn ymlwybro gyda degau o filoedd o gefnogwyr trwy gilomedr a mwy o lwybrau tebyg i “cattle pens“, a phawb yn cael eu stopio’n aml gan fod peryg i dyrfaoedd gael eu gwasgu a syrthio ar y grisiau. Gwahanwyd y criw o wyth oddi wrth y teulu yn y wasgfa. Roedd ein hawyren i fynd am 03.00 – dros dair awr wedi diwedd y gêm, ond aeth amser yn brin. Aeth pedwar o’r criw ymlaen at y maes awyr i esbonio. Arhosais i ar gyfer y tri arall gan na ellid risgio eu bod yn colli hediad.

Wedi aros am 15 munud, dywedodd rhywun wrthyf eu bod wedi ceisio trefnu ffordd arall – dim bysus na thacsis i’w gweld, ond gawson nhw gymorth person cyfeillgar gyda char i gyrraedd y maes awyr.

Pobol yn cael eu gollwng o stadiwm Ahmed bin Ali ar ôl y gêm rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau

Erbyn hyn 75 munud oedd gen i, gwasgais i mewn i un o’r trenau, newid trên, rhedeg am y bws wedyn ond dim un am fynd am sbel gydag ond 30 munud ar ôl. Arolygydd bysus eto mor garedig, gan anfon bws yn syth at y maes awyr efo dim ond fi arno. Ar y ffordd, cael fy mhapurau oll yn barod – roeddwn wedi cofrestru ymlaen llaw yn y bore am y ddau hediad. Desg yn cau am 02.45 a finnau yno am 02.51. Swyddog yn ffonio FlyDubai i gynnig mynd â fi syth trwodd, ond FlyDubai yn gwrthod ef a chais teulu. Hedfanodd y saith yn ôl, a finnau dal yno.

Cefais ddeall bod dwsin o rai eraill yn yr un sefyllfa – nifer wedi mynd at y maes awyr arall yng nghanol y dref. Swyddog FlyDubai ddim yn gallu helpu, dim ateb yn y Ganolfan Alw a’r wefan yn dweud nad oedd dim tocynnau ar ôl. Nhwythau’n argymell holi am awyren 07.00 dydd wedyn. Ond visa 24 awr yn unig sydd. Llawer gyda ffonau heb eu gwefru. Erbyn hyn, roedd ryw 50 o Gymry yn y maes awyr. Llwyddwyd i ffeindio swyddog i chwilio am feysydd awyr eraill agos at Dubai a phrynu tocyn i Abu Dhabi gyda bws ymlaen wedyn i Dubai.

Amser difyr yn y maes awyr dros nos gyda chriw o Senegal, ac eraill o’r cymoedd. Ail-wefru nifer o ffonau, chwilio’r ardal am ryw fwyd a diod, ac i ffwrdd erbyn 11.25 y dydd wedyn. Pob cais gan Gymry i fynd ar yr awyrennau wedi methu – hyd yn oed bachgen ifanc ddywedodd yn bendant wrth swyddog FlyDubai: “Listen, I’m from the Bwl (Ynysybwl), you’d better put me on that plane, butt!”

Pobol Qatar yn garedig iawn, am fynd o’u ffordd i helpu, ond diwylliant corfforaethol sy’n rheoli’r cwmni â rheolau caeth. Rhaid i gwmnïau awyrennau gadw at amserlenni ond, ar adeg eithriadol Cwpan y Byd gyda chynllun gwallus i gael pobol o’r stadiwm, dylid bod wedi defnyddio mymryn mwy o gydymdeimlad.