Bydd Joe Hawkins, canolwr y Gweilch, yn ennill ei gap cyntaf dros dîm rygbi Cymru pan fyddan nhw’n herio Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, gyda’r gic gyntaf am 3.15yp.

Daw Hawkins i mewn i’r tîm yn bartner i George North, gydag Owen Watkins wedi anafu ei ben-glin.

Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf ers 2021, wythnos ar ôl dod i’r cae yn eilydd yn y golled annisgwyl yn erbyn Georgia.

Rio Dyer ac Alex Cuthbert fydd ar yr asgell, tra mai’r maswr Gareth Anscombe a’r mewnwr Tomos Williams yw’r haneri.

Ymhlith y blaenwyr, fe fydd yr wythwr Taulupe Faletau yn dychwelyd i ennill ei ganfed cap rhyngwladol (95 dros Gymru), ac fe fydd e’n cadw cwmni i’r blaenasgellwyr Jac Morgan a’r capten Justin Tipuric.

Daw Alun Wyn Jones yn ôl i’r ail reng yn bartner i Adam Beard, tra mai Gareth Thomas, Ken Owens a Dillon Lewis fydd yn dechrau yn y rheng flaen.

‘Siomedig’

Bydd tîm Wayne Pivac yn gobeithio taro’n ôl ar ôl y golled yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud eu bod nhw wedi adolygu’r perfformiad.

Mae’n dweud bod Joe Hawkins “wedi cyffroi” o gael ennill ei gap cyntaf, a’i fod e wedi’i ddewis yn sgil ei berfformiadau ar y cae ymarfer.

Mae’n mynnu bod y tîm yn un sy’n gallu sicrhau canlyniad da yn erbyn Awstralia, ond y bydd y gêm yn “gam i fyny” yn erbyn “tîm peryglus” Awstralia a’i fod e’n disgwyl “brwydr galed iawn, iawn”.

Mae’r prif hyfforddwr hefyd wedi llongyfarch Taulupe Faletau ar ennill cant o gapiau rhyngwladol, gan ddweud bod y garreg filltir yn “dyst i’w waith caled a’i ymroddiad”.

Bydd y gêm yn fyw yn Gymraeg ar Prime Video, gydag uchafbwyntiau ar S4C.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, George North, Joe Hawkins, Rio Dyer, Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ken Owens, Dillon Lewis, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Jac Morgan, Justin Tipuric (capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion:

Ryan Elias, Rhodri Jones, Tomas Francis, Ben Carter, Josh Macleod, Kieran Hardy, Rhys Priestland, Josh Adams